Sêr a phlanedauLliwiau’r sêr

Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Lliwiau’r sêr

Mae sêr yn cael eu geni o gymylau llwch a nwy hydrogen o’r enw nifylau. Mae sêr yn cynhyrchu egni drwy ymholltiad niwclear. Mae atomau nwy hydrogen yn asio at ei gilydd i ffurfio atomau heliwm. Mae llawer iawn o wres yn cael ei gynhyrchu yn ystod adwaith yr ymholltiad, ac mae hwn yn cael ei allyrru gan y seren. Mae sêr más uchel yn boeth iawn, ac maen nhw’n allyru llawer iawn o wres. Er hynny, mae eu hoes nhw’n gymharol fyr.

Mae Ada, yr ap gwyddoniaeth, yn egluro tarddiad yr holl elfennau yn y Bydysawd.