Sêr a phlanedauFfurfio cysawd yr haul

Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Ffurfio cysawd yr haul

Sut mae system fel cysawd yr haul yn ffurfio?

Mae cwmwl dwys o nwy a llwch, sy’n cynnwys llawer o hydrogen, yn cyfangu dan ddisgyrchiant. Wrth i’r nwy gywasgu, mae ei dymheredd yn cynyddu ac mae’r cwmwl o lwch yn dechrau troelli. Mae yn dechrau ffurfio yng nghanol y cwmwl o lwch sy’n troelli. Mae yn dechrau, ac mae seren wedi’i geni. Mae’r planedau’n dechrau ffurfio o’r cymylau o lwch sy’n troelli o gwmpas y seren.

Mae disgyrchiant yn gryfach yn nes at y seren. Mae’r rhan fwyaf o’r defnydd dwys yn y cwmwl o lwch yn cael ei atynnu’n gryf, ac yn diweddu yn y fan hon.

Y planedau creigiog mewnol a’r cewri nwy

Mae’r pedair planed fewnol (Mercher, Gwener, y Ddaear a Mawrth) yn greigiog ac mae ganddyn nhw arwynebau solid y byddai rhywun yn gallu cerdded arnynt.

Pan ffurfiodd cysawd yr haul, roedd creigiau (a defnyddiau dwys, trwm eraill yn y cwmwl o lwch fel haearn ac wraniwm) yn tueddu i gasglu’n agosach at yr Haul, a chyfunodd y defnyddiau hyn gyda’i gilydd i ffurfio’r planedau mewnol.

Cewri nwy yw’r pedair planed allanol (Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion). Pan ffurfiodd cysawd yr haul, casglodd sylweddau nwyol gyda’i gilydd yn bellach oddi wrth yr haul i ffurfio’r cewri nwy.