Sêr a phlanedauDiagram Hertzsprung-Russell (H-R)

Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Diagram Hertzsprung-Russell (H-R)

Enw’r diagram hwn yw’r diagram Hertzsprung-Russell (H-R). Mae’n dangos sêr yn ôl eu tymheredd a’u disgleirdeb.

Diagram Hertzsprung-Russell. Mae'n dangos sêr yn ôl eu tymheredd a’u disgleirdeb.

Mae’r sêr ar y llinell letraws yng nghyfnod prif ddilyniant eu bywydau.

Question

Mae tymheredd ein Haul ni tua 6,000 K ac mae ei oleuedd (mesur disgleirdeb) yn 1. Alli di ei ganfod ar y diagram?

Question

Bydd ein Haul ni’n troi’n gawr coch ac yna’n cyfangu i droi’n gorrach gwyn. Alli di ddangos y llwybr hwn ar y diagram?

Question

Bydd cewri glas yn troi’n orgewri coch wrth iddynt heneiddio. Alli di ddangos y llwybr hwn ar y diagram?