Sêr a phlanedauCylchred oes sêr

Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Cylchred oes sêr

Mae sêr yn cael eu geni. Maen nhw’n byw, yn heneiddio ac yna’n marw. Mae’r llwch a’r elfennau sy’n cael eu taflu allan gan sêr masfawr sy’n marw yn gallu cael eu hailgylchu - ac mae’r defnydd hwn yna’n gallu ffurfio sêr newydd yn y dyfodol. Mae diagram cylched bywyd y seren yn dangos y cyfnodau mae sêr yn mynd drwyddyn nhw wrth heneiddio.

Diagram yn dangos cylch bywyd seren. Gall Proto-seren ddatblygu’n Gorrach du neu’n Uwchnofa. Os bydd yn datblygu’n Uwchnofa yna gallai ddatblygu naill ai’n Dwll du neu’n Seren niwtron

Mae sêr yn dechrau fel cynser. Ar ôl y cyfnod protoseren a dechrau ymasiad niwclear, mae pob seren yn mynd i’r .

Pan mae sêr yn y prif ddilyniant, mae’r grymoedd arnynt yn gytbwys. Mae grymoedd disgyrchiant yn cydbwyso grymoedd pelydriad tuag allan a gwasgedd y nwy.

Mae saethau coch yn cyfeirio i ffwrdd o’r canol yn dangos sut mae gwasgedd nwy yn gwthio tuag allan. Mae saethau gwyrdd yn cyfeirio i mewn yn dangos sut mae disgyrchiant yn tynnu defnydd tuag i mewn.

Dros amser, mae’r grymoedd sy’n gweithredu ar y seren yn mynd yn anghytbwys. Pan mae’r grymoedd disgyrchiant tuag i mewn yn llai na’r grymoedd gwasgedd pelydriad tuag allan, mae’r seren yn chwyddo ac yn oeri, gan droi’n goch. Mae sêr â màs uchel yn ffurfio , ac mae sêr â màs isel yn ffurfio .

Mae’r grymoedd yn mynd yn anghytbwys pan nad oes llawer o hydrogen ar ôl. Mae’r seren yn dechrau ymasio heliwm ac yna elfennau trymach a thrymach i gynnal yr ymasiad. Pan mae haearn yn ffurfio yng nghraidd y seren, mae ymasiad niwclear yn stopio ac mae’r seren yn cyfangu o dan ei disgyrchiant. Mae beth sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar fàs y seren.

Mae cewri coch yn dymchwel i ffurfio seren corrach gwyn sy’n oeri’n raddol dros amser. Mae gorgewri coch yn dymchwel yn gyflym gan gynhyrchu ffrwydrad enfawr o’r enw .

Mae gorgewri coch â màs uchel yn ffurfio lle mae craidd y gorgawr (tua 1.5 gwaith màs yr Haul) wedi dymchwel i ddarn o ofod â radiws o tua 12 km.

Mae’r gorgewri â màs uchel iawn yn dymchwel â chymaint o rym nes eu bod nhw’n ffurfio , pwynt màs sydd mor ddwys nes bod cymaint o rym disgyrchiant ganddo nes bod hyd yn oed golau yn methu dianc o’i arwyneb.

Wrth i’r seren ddymchwel a’r uwchnofa ffrwydro, mae elfennau trymach na haearn (fel wraniwm) yn ffurfio ac yn cael eu bwrw allan i’r gofod. Mae’r defnydd sydd wedi’i fwrw allan yn ymuno â llwch arall a hydrogen ac yn dechrau’r broses o ffurfio sêr newydd. Gallai planedau hefyd ffurfio o gwmpas y sêr hyn - ailgylchu ar raddfa fawr. Mae’r wraniwm sy’n bodoli ar y Ddaear wedi dod o’r broses hon – felly rydyn ni wedi ein gwneud o’r defnydd ddaeth o uwchnofa cynharach.