Sêr a phlanedauComedau ac asteroidau

Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Comedau ac asteroidau

Diagram o Gysawd yr Haul yn dangos orbitau’r planedau ac orbit eliptigol comed. Mae cynffon nwy a chynffon llwch y gomed wedi’u labelu.

Peli o graig ac iâ yw comedau. Mae’r iâ yn toddi wrth i’r gomed ddod yn agosach at yr Haul, gan gynhyrchu ei "chynffon". Mae ganddyn nhw orbitau eliptigol iawn, neu echreiddig.

Mae llawer o gomedau’n pasio yn bell y tu allan i gysawd yr haul.

Asteroidau

Creigiau mawr sy’n bodoli gan fwyaf mewn gwregys rhwng Mawrth ac Iau yw . Mae corblaned o’r enw Ceres hefyd yn y gwregys asteroidau hwn. Gallai’r creigiau yn y gwregys asteroidau fod yn weddillion planed a fethodd ffurfio oherwydd atyniad disgyrchiant cryf Iau.