Mesuriadau bras - Canolradd ac UwchLluosi a rhannu

Mae mesuriadau’n hanfodol ar gyfer nifer o grefftau a gyrfaoedd. Os wyt yn deall mai ffigur bras yw pob mesuriad, gallai dy rwystro rhag gwneud unrhyw gamgymeriadau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Lluosi a rhannu

Problemau’n ymwneud â lluosi a rhannu

Wrth ddatrys problemau sy’n ymwneud ag arffiniau uchaf ac isaf, rhaid i ti:

  • weld beth mae’r cwestiwn yn ofyn i ti ei gyfrifo
  • canfod un ai arffiniau uchaf neu isaf y mesuriadau
  • datrys dy broblem gan ddefnyddio’r arffiniau cywir
  • ofyn i dy hun a yw dy ateb yn gwneud synnwyr?

Lluosi

Enghraifft

Mae teilsen sgwâr yn 18.5 cm o hyd, wedi ei mesur i’r mm agosaf.

  1. Ysgrifenna hyd lleiaf posib a hyd mwyaf posib y deilsen.
  2. Mae Tegan yn gosod tair o’r teils hyn ar draws llwybrau sy’n 55 cm o led, wedi eu mesur i’r cm agosaf. A fydd y teils bob amser yn gorchuddio’r llwybr?

Ateb

  1. Hyd lleiaf posib y deilsen = 18.45. Hyd mwyaf posib y deilsen = 18.55.
  2. Er mwyn i’r teils orchuddio’r llwybr bob amser, rhaid i dair o’r teils lleiaf orchuddio rhan letaf y llwybr.

Hyd lleiaf posib tair teilsen = 3 × 18.45 = 55.35 cm.

Lled mwyaf posib y llwybr = 55.5 cm.

Na, ni fydd y teils bob amser yn gorchuddio lled y llwybr.

Question

Mae cyfaint bwced yn 200 cm3, wedi ei fesur i’r 10 cm3 agosaf.

  1. Ysgrifenna’r gwerthoedd lleiaf a mwyaf posib ar gyfer cyfaint y bwced.
  2. Mae dŵr yn cael ei arllwys o’r bwced i bwll padlo sydd â chyfaint o 10·5 litr, wedi ei fesur i’r 0·1 litr agosaf. A yw hi bob amser yn bosib arllwys dŵr o 50 bwced llawn i’r tanc heb iddo orlifo?

Rhannu

Enghraifft

Fe sefydlodd Usain Bolt record byd newydd yn y ras wib dros 200 m ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 2009. Yr amser swyddogol oedd 19.19 s ond fe wnawn ni dalgrynnu hwn i fyny i 19.2 s (un lle degol).

Mae’r pellter yn cael ei fesur i’r m agosaf a’r amser yn cael ei fesur i’r degfed rhan o eiliad agosaf. Cyfrifa gyflymder cyflymaf ac arafaf Usain Bolt mewn metrau yr eiliad.

Ateb

\(Cyflymder=\frac{Pellter}{Amser}\)

Amser hiraf posib = 19.25 s

Amser byrraf posib = 19.15 s

Pellter hiraf posib = 200.5 m

Pellter byrraf posib = 199.5 m

\(Cyflymder=\frac{Pellter}{Amser}\)

I gael y gwerth mwyaf pan fyddi di’n rhannu, rwyt ti angen y pellter hiraf wedi ei rannu â’r amser byrraf.

Cyflymder cyflymaf = \(\frac {200.5} {19.15}\) = 10.46997389 m/s (neu ms-1)

I gael y gwerth lleiaf pan fyddi di’n rhannu, rwyt ti angen y gwerth lleiaf wedi ei rannu â’r mwyaf.

Cyflymder arafaf = \(\frac {199.5} {19.25}\) = 10.36363636 m/s (neu ms-1)

Question

Mae màs darn o fetel yn cael ei fesur fel 5 kg i’r kg agosaf. Cyfaint y metel yw 130 cm3 yn gywir i’r 10 cm3 agosaf. Cyfrifa ddwysedd mwyaf posib y metel.