Mesuriadau bras - Canolradd ac UwchAdio a thynnu

Mae mesuriadau’n hanfodol ar gyfer nifer o grefftau a gyrfaoedd. Os wyt yn deall mai ffigur bras yw pob mesuriad, gallai dy rwystro rhag gwneud unrhyw gamgymeriadau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Adio a thynnu

Problemau’n ymwneud ag adio a thynnu

Wrth ddatrys problemau sy’n ymwneud ag arffiniau uchaf ac isaf, rhaid i ti:

  • weld beth mae’r cwestiwn yn ofyn i ti ei gyfrifo
  • canfod un ai arffiniau uchaf neu isaf y mesuriadau
  • cyfrifo dy broblem gan ddefnyddio’r arffiniau cywir
  • gofyn i dy hun a yw dy ateb yn gwneud synnwyr?

Adio

Enghraifft

Gyda’r petryal isod, cyfrifa’r gwerth mwyaf posib ar gyfer y perimedr os yw’r mesuriadau i gyd i’r cm agosaf.

Petryal 5 cm x 3 cm

Os ydyn ni’n canfod y gwerth mwyaf ar gyfer y perimedr, bydd arnon ni angen yr hyd a’r lled mwyaf.

Rydyn ni’n talgrynnu i’r cm agosaf, felly, i ganfod yr hyd mwyaf, rhaid i ni fynd 0.5 cm yn uwch.

Hyd mwyaf posib = 5.5 cm.

Lled mwyaf posib = 3.5 cm.

Perimedr mwyaf posib = 5.5 + 3.5 + 5.5 + 3.5 = 18 cm neu

Perimedr mwyaf posib = 2 × (5.5 + 3.5) = 18 cm

Question

Pwll padlo â radiws 500 cm

Mae gan y pwll padlo hwn radiws o 500 cm yn gywir i’r cm agosaf. Beth yw lleiaf posib y pwll?

Tynnu

Enghraifft

Mae Stadiwm Liberty yn Abertawe yn gallu dal 20,500 o bobl, i’r 100 agosaf. Yng ngêm gartref gyntaf y tymor, roedd tua 18,000 o bobl yn y gêm, i’r 1,000 agosaf. Beth yw’r nifer mwyaf posib o seddi a allai fod wedi eu gadael yn wag?

Roedd nifer y seddi’n gywir i’r 100 agosaf.

Cyfeiliornad wrth fesur = ½ o 100 = 50.

Y nifer mwyaf posib o seddi = 20,500 + 50 = 20,550.

Byddai’r nifer mwyaf o seddi’n cael eu gadael yn wag pe bai’r nifer lleiaf posib o bobl yn mynd i’r gêm.

Roedd nifer y bobl yn gywir i’r 1,000 agosaf.

Cyfeiliornad wrth fesur = ½ of 1,000 = 500.

Y nifer lleiaf posib o bobl = 18,000 – 500 = 17,500 person.

I ganfod nifer y seddi gwag, rhaid i ni dynnu un gwerth o’r llall.

Y nifer mwyaf posib o seddi gwag = 20,550 – 17,500 = 3,050.

Question

Mae llun sgwâr yn cael ei roi mewn ffrâm. Mae’r ffrâm yn 32 cm o led ac mae’r llun yn 28 cm o led. Mae’r ddau fesur yn gywir i’r cm agosaf. Pa mor llydan ddylai mownt ffrâm y llun fod er mwyn sicrhau ei fod yn gorchuddio’r bwlch rhwng y llun a’r ffrâm?