Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

O Ran gan Mererid HopwoodThemâu - twyll

Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi’n meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy’n bygwth chwalu eu byd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Themâu - twyll

Mae yna sawl math o dwyll, mawr a bach, yn digwydd yn O Ran. Weithiau mae cymeriadau yn eu twyllo’u hunain, dro arall maen nhw'n twyllo’i gilydd. Mae’r nofel hefyd yn gwneud i ni ofyn i ni’n hunain tybed a ydy twyll ambell waith yn beth derbyniol?

Sut mae thema twyll yn cael ei dangos yn O Ran?

Mae O Ran yn cyfleu thema twyll trwy:

  • stori magu Angharad
  • alcoholiaeth Ifan
  • anffyddlondeb Ifan i Mary

Magwraeth Angharad

Sut mae’r nofel yn dangos hyn?

Mae Mererid Hopwood yn datgelu’r twyll ynglŷn â magwraeth Angharad yn agos at ddiwedd y nofel drwy gyfeirio at bennod olaf cyfrol deyrnged Ifan Gwyn. Wrth ddarllen y geiriau a ysgrifennodd Ifan cyn marw, mae Angharad yn darganfod mai Anti June oedd ei mam mewn gwirionedd ac mai dyn priod a dreisiodd Anti June oedd ei thad. Roedd Mary, chwaer Anti June, a’i gŵr Ifan wedi cytuno i Angharad gael ei chofrestru fel eu plentyn nhw.

Tystiolaeth

“Ym mis Medi [1965], ar ei ffordd adre o ddawns ffermwyr ifanc, roedd Anti June wedi cael ei threisio gan was Pantybrenin, Morris Hopkins, ac yn ei chywilydd a’i hofn, heb ddweud gair wrth neb, aeth y misoedd heibio. Ond o’r diwedd, ar ôl methu cuddio mwy ei bod hi’n feichiog, roedd Myng-gu wedi cael gwybod.”

Dadansoddiad

Mae magwraeth Angharad yn seiliedig ar gelwydd ynglŷn â phwy yw hi. Er mwyn cadw enw da’r teulu mae Anti June, Myng-gu, Ifan a Mary wedi twyllo nifer o bobl – yr awdurdodau adeg cofrestru’r geni, gweddill eu teulu a’u cydnabod ar hyd y blynyddoedd, ac Angharad ei hun. Syniad Ifan ei hun oedd y cynllwyn. Mae’r nofel yn ein gwahodd i ystyried a oedd y teulu ar fai yn gwneud hyn, neu a oedd yn dwyll angenrheidiol a arweiniodd at well magwraeth i Angharad.

Alcoholiaeth Ifan

Sut mae’r nofel yn dangos hyn?

Mae’r nofel yn cyflwyno Ifan fel rhywun sydd â phroblem yfed ond sy’n cuddio’r broblem rhag pobl eraill ac, yn wir, sy’n gwrthod cydnabod bod ganddo broblem. Mae ei ymddygiad yn enghraifft o dwyll a hunan-dwyll. Hefyd, mae Angharad a Myng-gu yn cyfrannu at y twyllo trwy geisio cuddio cyflwr Ifan oddi wrth ei gilydd. Nid yw’r ddwy erioed wedi trafod y mater.

Tystiolaeth

“Fel pob alcoholig, gwadu’r yfed oedd gwraidd y broblem.”

Dadansoddiad

Mae Ifan yn alcoholig nodweddiadol yn yr ystyr ei fod yn gwrthod cydnabod ei broblem na gofyn am help. Ond yn fwy cyffredinol, mae’r nofel yn gwneud i ni ystyried sut mae twyll yn gallu arwain at fwy o dwyll – mae twyll/hunan-dwyll un person yn gallu arwain pobl eraill o’i gwmpas i fyw yr un celwydd, rhag gorfod wynebu realiti sefyllfa anodd.

Anffyddlondeb Ifan i’w wraig

Sut mae’r nofel yn dangos hyn?

Fel yn achos y cynllwyn teuluol, dysgwn am anffyddlondeb Ifan i’w wraig Mary ar ddiwedd y nofel, trwy ei gyfraniad at y gyfrol deyrnged. Yno mae wedi cyfaddef ei fod yn cael perthynas gyda’r gantores Elena ar union adeg yr oedd ar fin dechrau bywyd newydd gyda’i wraig Mary, fel ‘tad’ i Angharad.

Tystiolaeth

“A phan gyrhaeddodd Ifan Gwyn yr Eglwys Newydd, roedd Mary rywsut yn gwybod fod ei lygaid yn llawn secwins, a’i glustiau’n llawn llais contralto dwfn. Ac yn ei phryder – a’i siom – collodd ei hanadl. A mogi.” [Er nad yw Elena’n cael ei henwi yn y darn uchod, gwyddom oddi wrth ddisgrifiadau cynharach ohoni mai hi sydd dan sylw.]

Dadansoddiad

Oherwydd nad yw’r datgeliad ynglŷn ag anffyddlondeb Ifan i’w wraig yn dod tan ddiwedd y nofel, does dim cyfle i gael barn Angharad am hynny. Ond mae’r datgeliad yn gwneud i ni feddwl yn ôl am berthynas Ifan gydag Elena – rydyn ni'n sylweddoli bod y berthynas yn mynd yn ôl ymhell. Ac mae’r ffaith fod y twyll yma wedi arwain at farwolaeth Mary yn ein hatgoffa, unwaith eto fod twyll un person yn gallu cael effaith fawr ar bobl eraill.