Perthynas Angharad ac Ifan
Y berthynas ganolog yn y nofel yw perthynas Angharad a’i thad. Heb frawd, chwaer na mam, ei thad yw’r person pwysicaf yn ei bywyd. Ef sy’n ei magu, er bod Anti June a Myng-gu yn helpu llawer ar y ddau. Mae Angharad yn caru ei thad ac mae yntau’n meddwl y byd ohoni hithau, ond mae ei brysurdeb cynyddol fel cerddor a’i alcoholiaeth yn bygwth eu perthynas glos.
Agosrwydd
Mae’n berthynas agos iawn ac mae gan Angharad angen am ei thad er mwyn teimlo’n ddiogel. Rydyn ni’n gweld hyn pan mae Angharad yn ferch fach a hithau’n amser gwely, mae’n teimlo’n saff gyda’i thad.
“A dyna fi’n gwbl saff. Yng nghesail Dad. Ar un ochr i mi roedd y pared yn dynn yn erbyn y gwely, ac ar yr ochr arall roedd pwysau Dad yn dynn wrth fy ochr. Arogl cysurus Dad. Mwg pib a sebon col-tar. Fi o dan y cyfnasau, a Dad ar ben y garthen. Ac fel hyn, yn dynn rhwng y dillad gwely, roeddwn i’n ddiogel.”
Yn oedolyn hefyd, mae Angharad yn teimlo’r un angen am ei thad.
Dealltwriaeth
Mae’r ddau yn deall ei gilydd yn iawn, gwelwn enghraifft o hyn pan mae Anti June yn penderfynu rhoi cyrls yng ngwallt Angharad cyn iddi ddechrau yn nosbarth y plant mawr:
“Roedd y ddau ohonom wedi dod i ddeall ein gilydd – ac Anti June – yn dda. Gadael iddi hi, a Myng-gu, wneud fel y mynnen nhw tra oedden nhw yn ein tŷ ni, ac wedyn, yr eiliad y bydden nhw’n troi heibio i ffin y gornelgwaharddedigWedi ei wahardd, forbidden yn Saesneg., rhoi popeth yn ôl yn ei le.”
Wedi i Angharad orfodi Ifan i dorri ei gwallt, mae Angharad yn meddwl ei bod yn hyll ond mae Ifan yn llwyddo i’w darbwyllo fel arall.
“Ti’n meddwl mod i’n hyll, Dad?”
“Wel, nawr, gad i mi weld.”
A chan ddechrau gyda lliw brown diflas fy ngwallt a gorffen gyda’r clustiau pigog, fe’m perswadodd i mai fi oedd y ferch harddaf yn y byd i gyd.
Pellter
Nid yw Ifan bob amser yn talu sylw i Angharad gan fod ei feddwl yn rhywle arall. Pan mae Ifan mewn hwyliau drwg mae fel petai’n mynd i ryw fyd ar wahân i’w ferch, byd lle na all hi ei gyrraedd.
“Doedd Dad ddim wastad mewn hwyliau da. Roedd ’na adegau pan oedd hi’n well peidio siarad gyda Dad. Neu’n hytrach, adegau pan oedd hi’n amhosib siarad gyda Dad. Adegau pan allwn daeru nad oedd Dad wir yn gwybod fy mod i yno o gwbl. Roedd tamed bach, bach o ofn arna i ar yr adegau hynny.”
Mae’r pellhau achlysurol rhyngddynt yn dod yn rhywbeth sy’n digwydd yn fwy aml, mae Ifan yn berson hollol wahanol pan mae’n cael pwl o hwyliau drwg.
“Pan oedd Dad yn bresennol, roedd yn siarad a chwerthin a chanu Bach ar y piano. Pan oedd dad yn dechrau troi’n absennol, doedd e ddim yn siarad rhyw lawer a byddai’n ymarfer Rachmaninov a sonatas Beethoven. Pan oedd Dad wedi troi’n absennol hollol, roedd e’n gwbl fud ... ”