Perthynas Angharad ac Anti June a Myng-gu
Edmygedd
Yn ferch fach mae Angharad yn edmyguMeddwl yn uchel o rywun, teimladau o hoffter mawr a pharch. Anti June oherwydd ei bod yn gwisgo mor ffasiynol. Gwelwn enghraifft o hyn pan mae Angharad yn bedair oed ac wrth ei bodd yn cael trio esgidiau Anti June:
“Roeddwn i’n caru sgidie Anti June. Ar y cyfan, roeddwn i’n caru Anti June. Falle nid cymaint â’i sgidie hi.”
Gwrthdaro
Weithau mae Angharad yn teimlo bod Anti June yn busnesu gormod yn ei bywyd, er enghraifft wrth siopa am wisg ysgol nid yw’r ddwy yn cytuno ar y dewis o ddillad.
“Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen, roeddwn i’n mynd yn fwy ac yn fwy anhapus. Roedd y tiwnics brethyn yn cosi. Roedd y blazer ddu yn edrych fel un bachgen. Roedd y crys chwaraeon yn bigog ac yn galed fel cardbord a’r sgert ddewisodd Anti June i fi’n llawer iawn, iawn rhy hir.”
Balchder
Mae Anti June yn falch iawn o Angharad, yn enwedig pan gaiff Angharad ei dewis yn dywysoges carnifal Llanbydder. Mae Anti June (a Myng-gu) wrth eu boddau ac yn paratoi’n ofalus.
“... rwy’n taeru na phwythwyd yr un ffrog briodas gyda chymaint o ofal â ffrog wen tywysoges y carnifal y flwyddyn honno.”
Cariad
Mae cariad Anti June at Angharad fel cariad mam a chawn wybod pam ar ddiwedd y nofel. Nid oes modd iddi ei fynegi’n agored oherwydd y gyfrinach deuluol. Pan fydd pobl yn camgymryd Anti June ac Angharad fel mam a merch – fel y wraig ar y bws ar ddiwrnod marwolaeth Anti June – mae Angharad yn sylwi bod Anti June yn hoffi hynny.
“Fyddai Anti June byth yn cyfaddef nad hi oedd fy mam i. Yn wir, weithiau gallwn daeru ei bod hi’n mynd mor bell â chreu’r camargraff yn fwriadol.”
Euogrwydd
Mae teimladau negyddol Angharad am Anti June yn gwneud iddi deimlo’n euog, er enghraifft ar ôl marwolaeth Anti June, wrth feddwl yn ôl am y sgwrs ar y bws, er nad yw’n cofio’r sgwrs yn iawn, mae Angharad yn poeni efallai ei bod wedi ymateb i sylw’r wraig drwy ddweud, “She’s not my mother.” Mae’r posibilrwydd iddi wadu mai Anti June oedd ei mam yn poeni Angharad ac mae’n cofio/dychmygu cymaint yr oedd hynny wedi brifo Anti June:
“Llygaid caredig, clwyfedig Anti June.”
Angharad a Myng-gu
Weithiau mae Myng-gu, fel Anti June, yn busnesu gormod ym mywyd Angharad, er enghraifft adeg parti pen-blwydd Angharad yn saith oed:
“Roedd Myng-gu wedi penderfynu. Hi ac Anti June. Doedd dim dewis yn y mater. Roedd yn rhaid imi gael parti pen-blwydd.”
Mae Myng-gu yn caru Angharad ac yn barod ei chydymdeimlad pan mae hi’n drist. Enghraifft dda o hyn yw ar ôl i Myfanwy’r crwban farw ac yn sgil y twyllo gyda’r syms yn yr ysgol. Mae Myng-gu yn fodlon mynychu ‘angladd’ Myfanwy er nad yw’n hoffi’r syniad o roi angladd Cristnogol i anifail. Y noson honno mae Myng-gu yn mynd i’r gwely gydag Angharad yn gwmni iddi.
Daw Myng-gu yn ffigwr pwysicach byth ym mywyd Angharad yn ystod ei harddegau ar ôl marwolaeth Anti June ac wrth i Ifan fynd yn fwy prysur. Mae Angharad yn penderfynu gofyn i’w thad a gaiff Myng-gu ddod i fyw atynt, am ei bod hi ei hun yn unig ac yn synhwyro bod Myng-gu hefyd yn unig (er nad yw Angharad yn llwyddo i godi’r mater yn y diwedd).