Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

O Ran gan Mererid HopwoodY stori

Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi’n meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy’n bygwth chwalu eu byd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y stori

Mae yna ddwy stori’n cyd-redeg ac yn plethu trwy’i gilydd:

  • stori Angharad ei hun
  • stori tad Angharad, Ifan Gwyn, sy’n gerddor

Rydyn ni'n dilyn y ddwy stori drwy gyfrwng atgofion Angharad fel oedolyn am ei phlentyndod a blynyddoedd ei harddegau.

Llinell amser o ddarluniau i arddangos manylion plot 'O Ran'.

Mae hanner cyntaf y llyfr yn cyflwyno atgofion plentyndod cynharaf Angharad, yn ar y cyfan, o’r adeg mae’n tua phedair oed hyd at ddiwedd ei chyfnod yn yr ysgol gynradd. Dyma rai o’r prif ddigwyddiadau:

  • prynu crwban (Myfanwy)
  • mynd i’r ysgol am y tro cyntaf
  • ei pharti pen-blwydd yn saith oed
  • mynd i ddosbarth y ‘plant mawr’
  • twyllo’r athrawes drwy wneud gwaith plant eraill drostyn nhw
  • cyfarfod Elena, sy’n cael gwersi canu gan ei thad
  • mynd i aros gyda Myng-gu yn Llanybydder
  • marwolaeth y crwban
  • mynd yn sâl yn y capel

Mae ail hanner y llyfr yn ymwneud â chyfnod Angharad yn yr ysgol uwchradd (ond gan gynnwys ambell atgof cynharach hefyd). Mae ei thad yn dod yn fwy enwog ond yr un pryd daw’n amlwg fod ganddo broblemau – mae’n alcoholig ac mae’n mynd i ddyled. Mae Angharad hefyd yn mynd trwy gyfnod anodd. Dyma’r digwyddiadau pwysicaf yn y rhan yma o’r llyfr:

  • Angharad, gyda’i thad, yn ymweld â bedd ei mam yn Llanybydder
  • marwolaeth Anti June a’i hangladd
  • Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978, lle mae Ifan Gwyn yn serennu
  • Ifan Gwyn yn derbyn llythyrau dienw cas ar ôl yr Eisteddfod
  • Angharad yn darganfod ei thad yn feddw yn y tŷ
  • y beilïaid yn dod i nôl eiddo Ifan Gwyn o’r tŷ