O Ran gan Mererid HopwoodThemâu - adnabod

Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi’n meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy’n bygwth chwalu eu byd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Themâu - adnabod

Mae nifer o themâu O Ran yn perthyn yn agos i’w gilydd ac mae’r tair prif thema yn ymwneud â gwirionedd a gwirionedd:

  • adnabod
  • twyll
  • euogrwydd

Adnabod

Pa mor dda ydyn ni’n adnabod pobl eraill? Dyna’r cwestiwn canolog sy’n cael ei godi yn O Ran. Mi allwn gredu ein bod yn adnabod rhywun yn dda ond efallai fod rhannau o’u bywyd yn hollol guddiedig oddi wrthyn ni. Mae gan hyd yn oed bobl sy’n gyfarwydd iawn i ni, ac yn agos aton ni, y gallu i’n synnu a’n siomi trwy ryw ymddygiad neu weithred sy'n groes i’r arfer neu’r disgwyl.

Sut mae thema adnabod yn cael ei dangos yn y nofel?

Mae O Ran yn cyfleu thema adnabod trwy:

  • y teitl
  • perthynas Ifan ac Angharad
  • y gyfrol deyrnged i Ifan

Sut mae teitl y nofel yn dangos y thema adnabod?

Mae teitl y nofel yn adlewyrchu’r thema gan fod y geiriau “o ran” yn ddyfyniad o emyn enwog sy’n trafod y syniad o adnabod (mewn cyd-destun Cristnogol).

Dyma’r pennill o’r emyn lle mae’r geiriau i’w cael, pennill sydd wedi’i gynnwys ar glawr y llyfr:

Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
by Ann Griffiths

Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o’m holl fryd,
Er o ran yr wy’n ei ’nabod
Ef uwchlaw gwrthrychau’r byd:
Henffych fore!
Caf ei weled fel y mae.

Yn yr emyn mae’r geiriau “o ran” yn cyfleu teimlad awdur yr emyn, Ann Griffiths, mai dim ond yn rhannol y mae hi’n adnabod Crist. Mae Mererid Hopwood wedi benthyg yr ymadrodd er mwyn disgrifio sefyllfa Angharad, a chyfleu’r ffaith nad yw adnabyddiaeth Angharad o’i thad yn gyflawn.

Perthynas Ifan ac Angharad

Er cymaint y mae Angharad yn caru ei thad, mae ei brysurdeb a’i enwogrwydd cynyddol yn ei droi’n ddyn dieithr iddi. Mae ei byliau o yfed/iselder hefyd yn tanseilio ei hadnabyddiaeth ohono.

“Roedd Dad yn dechrau troi’n enw. Ac roeddwn i’n troi fwyfwy i fod yn ferch i Ifan Gwyn. Ac wrth i mi ddod yn fwy o ferch i Ifan Gwyn, roedd Ifan Gwyn fel pe bai’n dod yn llai o dad i mi.”

Mae’r defnydd o enw llawn Ifan Gwyn – sef yr enw y mae’n adnabyddus wrtho – yn ategu’r diethrio hwn.

“Roedd Dad wedi bod yn un o’i hwyliau absennol.”

Mae Angharad yn defnyddio’r gair ‘absennol’ sawl gwaith i ddisgrifio ymddygiad achlysurol ei thad mewn gwrthgyferbyniad â’r adegau pan mae’n ‘bresennol’ (hy, yn rhoi sylw iddi). Erbyn diwedd y nofel mae ei thad wedi mynd yn gwbl ‘absennol’ iddi yn sgil ei farwolaeth o alcoholiaeth.

Cyfrol deyrnged Ifan Gwyn

Pobl sy’n adnabod Ifan – cyfeillion a chyd-gerddorion, gan gynnwys ei gariad Elena, sydd wedi ysgrifennu gwahanol benodau’r gyfrol. Mae’n rhan o gyfres o’r enw Adnabod Arwr, ond mae’r nofel yn cwestiynu pa mor dda yr oedd y bobl hyn yn adnabod y cerddor.

Adnabod Arwr. Am deitl ar gyfres. Doedd dim gobaith gan neb i ddod i adnabod Ifan Gwyn drwy ddarllen y llyfr hwn. A sut oedd dod i’w adnabod? Ddim hyd yn oed ar ôl byw dan yr un to am ddeunaw mlynedd, ddim hyd yn oed o fod yn rhannu’r un gwaed, ’run cnawd. Ddim hyd yn oed wedyn y gallwn ddweud fy mod i’n ei adnabod.”

Mae Angharad yma’n dweud nad oedd neb yn adnabod ei thad go iawn, ddim hyd yn oed hi ei hun. A chofia bod hyn cyn iddi sylweddoli nad yw ei thad yn dad iddi mewn gwirionedd.