O Ran gan Mererid HopwoodAdeiladwaith

Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi’n meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy’n bygwth chwalu eu byd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Adeiladwaith

Mae yna nifer o elfennau gwahanol i adeiladwaith y nofel. Mae’r penodau i gyd yn fyr, rhai ohonynt yn fyr iawn. Mae rhai ohonynt yn cyflwyno atgofion (sef y gorffennol) a rhai eraill yn cyfleu meddyliau Angharad heddiw, fel oedolyn (sef y presennol).

Teithiau

Mae’r syniad o daith yn bwysig iawn yn y nofel. Mewn gwirionedd mae yna dair taith wahanol yn y nofel:

Taith trên

Mae Angharad yn teithio ar y trên o Lundain, lle mae hi’n byw erbyn hyn, i Gaerdydd, er mwyn mynd i weld ei thad sy’n wael yn yr ysbyty (er na chawn wybod hynny tan yn agos at ddiwedd y daith).

Mae’r trên yn stopio mewn gwahanol orsafoedd ar y ffordd ac mae’r awdur wedi rhoi enwau’r gorsafoedd hyn yn deitlau ar rai o benodau’r llyfr. Yn y penodau hyn mae’n sôn am y daith ei hun, yn sylwi ar bobl a phethau ar y trên a hefyd yn rhannu ei meddyliau am ei bywyd, yr hyn sydd y tu ôl iddi a’r hyn sydd o’i blaen.

Enwau gorsafoedd gan gynnwys man cychwyn a man gorffen y daith:

  1. Paddington
  2. Slough
  3. Reading
  4. Didcot Parkway
  5. Swindon
  6. Bristol Parkway
  7. Newport
  8. Cardiff

Taith i’r gorffennol

Mae’r daith go iawn ar y trên yn rhoi cyfle i Angharad fynd ar fath arall o daith, sef taith yn ôl mewn amser i’r gorffennol, wrth iddi hel atgofion am ei phlentyndod a’i harddegau. Y daith yw’r fframwaith ar gyfer yr holl atgofion sy’n cael eu cyflwyno yn y nofel. Felly mae yna daith yn ogystal â thaith .

Taith ysbrydol

Taith fwy anodd ei diffinio yw’r drydedd. Fel y daith i fyd atgofion, mae hon hefyd yn daith ffigurol ond mae’n fwy o daith ysbrydol. Caiff y daith yma ei disgrifio mewn ambell ran o’r llyfr sy’n wahanol i’r gweddill:

  • defnydd o deip italig
  • iaith farddonol a delweddol iawn

Er bod y darnau yma yn ddienw, mae’n ymddangos bod y darnau yn cynrychioli dyheadau dyfnaf Angharad, yn enwedig ei hawydd am dawelwch meddwl a llonyddwch mewnol ar ôl popeth y mae wedi bod trwyddo. Mae delweddaeth o fyd natur yn bwysig yn y darnau yma. Y ddelwedd ganolog yw’r ddelwedd o lwybr sy’n arwain i fan arbennig, rhyw hafan dawel lle bydd popeth yn iawn ac yn gyflawn ac yn gwneud synnwyr. Mae yna awgrym o ystyr dyfnach a dimensiwn i fywyd, y tu draw i’r bywyd daearol gyda’i holl stŵr a helynt. Mae’n ysbrydol.

Cofiant a hunangofiant

Elfen arall yng nghynllun y nofel yw’r dyfynnu o gyfrol deyrnged Ifan Gwyn. Ar y trên mae Angharad yn darllen proflenni’r gyfrol yma ac mae dyfyniadau ohoni i’w cael yma ac acw yn y nofel:

  • defnydd o deip trwm
  • geiriau pobl eraill am Ifan – cyfeillion a chydweithwyr – yw’r rhan fwyaf o’r dyfyniadau, yn Gymraeg neu Saesneg
  • yn y dyfyniad olaf cawn eiriau Ifan amdano’i hun

Cofiant yw llyfr Ifan Gwyn ar y cyfan, atgofion y gwahanol gyfranwyr am Ifan, ond mae pennod Ifan amdano’i hun yn bennod o hunangofiant. Mae Angharad yn darllen y bennod olaf yn y llyfr – pennod Ifan ei hun – ar ôl i’w thad farw. Eglura’r nyrs ei fod wedi ysgrifennu’r bennod yn yr ysbyty. Dyma’r geiriau allweddol, :

“Nid wyf i’n arwr, nac yn athrylith [...] Nid wyf i chwaith yn dad ...”

Ac yna, mewn pennod o dan y teitl ‘Crynhoi’, yn agos at ddiwedd y nofel, mae Angharad yn dweud hanes gwir y teulu fel y mae ei thad wedi’i ddatgelu yn yr hyn y mae wedi’i ysgrifennu.

Penodau byr o fewn adrannau mwy

Byr yw penodau’r nofel, rhai yn fyr iawn, a phob un â’i theitl ei hun. Ond mae’r penodau wedi’u cynnwys oddi mewn i adrannau hirach, sydd â’u teitlau eu hunain.

Mae pedair o’r uwchbenawdau yma – ‘Gadael’, ‘Ymlaen’, ‘Croesi’ a ‘Cyrraedd’ – yn cyd-fynd â thaith Angharad ar y trên. Mae’r uwchbenawdau eraill –‘Gweld’, ‘Enw’, ‘Uffern Lonydd’, ‘Ymweliad’ a ‘Hanner Stori’ – yn cyfeirio at rywbeth pwysig sy’n cael ei drafod yn yr adran dan sylw.

Yn aml mae’r adrannau yma yn cychwyn gyda darn o destun mewn italig – naill ai un o’r darnau delweddol (y daith ysbrydol) neu ddyfyniad o gerdd/emyn/rhigwm Cymraeg sy’n berthnasol i gynnwys yr adran.