O Ran gan Mererid HopwoodCymeriadau

Nofel am ferch yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au yw O Ran. Angharad yw cannwyll llygad ei thad ac mae hi’n meddwl y byd ohono yntau, ond mae gan y ddau eu gofidiau sy’n bygwth chwalu eu byd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Cymeriadau

Cymeriadau canolog O Ran yw Angharad a’i theulu agos. yw’r cymeriadau eraill i gyd er bod ambell un yn bwysig o safbwynt y stori.

Prif gymeriadau

  • Angharad Gwyn
  • Ifan Gwyn (tad Angharad)
  • Anti June (modryb Angharad)
  • Myng-gu (mam-gu Angharad)

Cymeriadau ymylol

  • Yvonne (y ferch ddi-Gymraeg sy’n byw drws nesaf i Angharad)
  • Mair (ffrind ysgol Angharad)
  • Elena (cantores a chariad Ifan ar adegau)
  • Huw Huws (bachgen ysgol y mae Angharad yn mynd allan gydag ef am gyfnod byr)
  • Geraint Hughes (bachgen ysgol arall y mae Angharad yn cael ei denu ato)

Angharad

Mae Angharad yn blentyn deallus a chraff, ond mae hefyd yn hunanymwybodol, yn ofnus, yn swil ac yn eithafol o sensitif. Wrth iddi fynd yn hŷn mae’n mynd yn fwy a mwy beirniadol ohoni ei hun ac ar un cyfnod, tra mae hi’n dal yn yr ysgol, mae hi’n cael meddyliau tywyll iawn a hyd yn oed yn ystyried ei lladd ei hun. Fel oedolyn hefyd, cawn yr argraff ei bod yn anhapus a’i bod yn teimlo nad yw ei bywyd yn gyflawn. Ond erbyn diwedd y nofel mae wedi dod yn gryfach person ac yn gallu edrych i’r dyfodol yn fwy hyderus.

Ifan

Mae Ifan yn ŵr golygus, yn dad cariadus i Angharad, ac yn gerddor dawnus iawn. Ond nid yw’n yn dda gyda’i enwogrwydd ac mae hefyd yn iawn – mae unrhyw feirniadaeth o’i waith yn ei frifo, ac mae hynny’n un peth sy’n gwneud iddo yfed gormod. Gallwn dybio hefyd fod teimladau o euogrwydd am faterion teuluol yn ei gorddi ac yn ei yrru i yfed. Mae’r alcoholiaeth yn ei ladd yn y diwedd.

Anti June

Mae Anti June yn wraig smart, ffasiynol, ond mae hefyd yn berson ymarferol iawn sy’n gwneud gwaith tŷ yn gyflym ac yn effeithiol. Mae hi’n siaradus a hoff o sgwrs. Mae’n dangos dewrder yn y ffordd y mae’n delio gyda’i hafiechyd (mae’n dioddef o’r fogfa neu asthma) heb gwyno o gwbl, ond y cyflwr hwnnw sy’n arwain at ei marwolaeth. Mae ei balchder o Angharad yn amlwg ond dim ond ar ddiwedd y nofel y cawn wybod bod ganddi reswm da iawn i deimlo’n falch ohoni gan mai Anti June mewn gwirionedd yw mam Angharad.

Myng-gu

Mae Myng-gu, er ei bod yn gwisgo’n fwy traddodiadol, yn debyg i Anti June mewn rhai ffyrdd, yn ymarferol a llawn egni a phenderfynol iawn. Mae’n Gristion selog, a hi sy’n mynd ag Angharad i’r Ysgol Sul. Mae ganddi synnwyr digrifwch, er enghraifft mae hi’n gweld yr ochr ddoniol i’r stori am Angharad yn twyllo’r athro trwy wneud gwaith mathemateg dau o fechgyn y dosbarth drostynt. Mae’n credu’n gryf mewn dal ati – un o’i hoff ddywediadau yw ‘Am mla’n ma mynd’. Dyna ei geiriau wrth Angharad ar ôl marwolaeth Myfanwy’r crwban ac ar ôl marwolaeth Anti June.