DilyniannauDilyniannau arbennig

Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu’n ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.

Part ofMathemategAlgebra

Dilyniannau arbennig

Mae yna rai dilyniannau arbennig y dylet eu hadnabod sydd ddim yn rhai llinol na chwadratig.

Dyma’r rhai pwysicaf:

  • rhifau ciwb: 1, 8, 27, 64, 125, ...
  • rhifau triongl: 1, 3, 6, 10, 15, ... (mae’r rhifau hyn yn gwadratig, a’r \(n\)fed term yw \(\frac{1}{2}n^2 + \frac{1}{2}n\))
  • Dilyniant Fibonacci: 1, 1, 2, 3, 5, 8, 13, ... (yn y dilyniant hwn, rwyt yn cychwyn gyda rhif 1, ac yna i gael pob term rwyt yn adio’r ddau derm a ddaw o’i flaen)