Mae ffactorio’n ffordd o ysgrifennu mynegiad fel lluoswm o’i ffactorau gan ddefnyddio cromfachau. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gael gwared ag unrhyw ffactorau sy’n gyffredin i bob term yn y mynegiad.
I ffactorio mynegiad, mae angen i ni dynnu allan unrhyw ffactorau sy’n gyffredin i bob term. Mae’r broses hon yn gwneud y gwrthwyneb i ehangu cromfachau.
I wneud yn siŵr bod mynegiad wedi ei ffactorio’n llawn, rhaid i ni ganfod beth yw ei ffactor cyffredin mwyaf (FfCM)Ffactor cyffredin mwyaf (FfCM) dau rif yw’r rhif mwyaf sy’n rhannu’n union i’r ddau ohonyn nhw. Er enghraifft, ffactor cyffredin mwyaf 24 a 36 yw 12. (FfCM), hynny yw y rhif/llythyren fwyaf y gellir rhannu bob term ag e/hi. Fel arall, ni fydd y mynegiad wedi ei ffactorio’n llawn, gan y bydd yna ffactorau cyffredin yn dal i fod y tu mewn i’r gromfach.
Enghraifft un
Ffactoria \(\text{10x + 25}\)
Mae angen i ni ganfod FfCM \(\text{10x}\) a \(\text{25}\). Y rhif mwyaf y gallwn ni rannu’r ddau derm ag ef yw 5, felly’r FfCM yw 5.
Dyma sy’n mynd y tu allan i’r gromfach: \(\text{5(? + ?)}\)
I weld pa dermau sydd angen mynd y tu mewn i’r gromfach, rhaid i ni rannu pob term â’r ffactor cyffredin mwyaf.
\(\text{10x ÷ 5 = 2x}\)
\(\text{25 ÷ 5 = 5}\)
Felly mae gennyn ni \(\text{5(2x + 5)}\)
Gallwn wirio bod ein hateb yn gywir drwy ehangu’r gromfach.
\(\text{5 × 2x = 10x}\)
\(\text{5 × 5 = 25}\)
\(\text{5(2x + 5) = 10x + 25}\), felly rydyn ni wedi ffactorio’n gywir.
Enghraifft dau
Ffactoria \(\text{3x}^{2} - \text{5x}\)
FfCM \(\text{3x}^{2}\) a \(\text{5x}\) yw \(\text{x}\), felly cymera \(\text{x}\) y tu allan i’r gromfach.