Ffactorio - Canolradd ac UwchNewid testun fformiwla: ffactorio [Uwch]

Mae ffactorio’n ffordd o ysgrifennu mynegiad fel lluoswm o’i ffactorau gan ddefnyddio cromfachau. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gael gwared ag unrhyw ffactorau sy’n gyffredin i bob term yn y mynegiad.

Part ofMathemategAlgebra

Newid testun fformiwla drwy ddefnyddio ffactorio – haen Uwch

Gallwn ddefnyddio ffactorio er mwyn ein helpu i ad-drefnu fformiwlâu. Os yw’r term rwyt ti’n ei wneud yn destun yn ymddangos fwy nag unwaith, bydd angen i ti ffactorio ar ryw adeg.

Enghraifft un

Gwna \(\text{x}\) yn destun y fformiwla \(\text{y = wx + w} - \text{5x}\).

Yn gyntaf, rhaid i ni symud unrhyw dermau sydd ddim yn gysylltiedig â \(\text{x}\):

Infograffeg yn dangos sut i symud termau sydd ddim yn gysylltiedig â x yn yr hafaliad y = wx + w - 5x i roi y - w = wx - 5x.

Nawr mae gennyn ni’r holl dermau \(\text{x}\) gyda’i gilydd. Er mwyn i \(\text{x}\) ymddangos unwaith yn unig, bydd angen i ni ffactorio ochr dde’r hafaliad.

FfCM \(\text{wx}\) a \(\text{5x}\) yw \(\text{x}\), felly bydd \(\text{x}\) yn mynd y tu allan i’r gromfach.

\(\text{wx ÷ x = w}\)

\(\text{5x ÷ x = 5}\)

Felly mae gennyn ni nawr: \(\text{y – w = x(w – 5)}\)

Yn olaf, mae angen i ni ad-drefnu’r hafaliad drwy rannu, er mwyn cael \(\text{x}\) ar ei ben ei hun:

Infograffeg yn dangos sut i ad-drefnu’r hafaliad y - w = x(w-5) drwy rannu i gael x ar ei ben ei hun a rhoi x = y - w wedi ei rannu ag w - 5.

Fel arfer, rydyn ni’n gosod testun fformiwla ar yr ochr chwith, felly bydd yr hafaliad yn edrych fel hyn:

Infograffeg yn dangos x yn hafal i y minws w dros w minws pump

Enghraifft dau

Gwna \(\text{x}\) yn destun y fformiwla \(\text{y} = \frac{4x + 5}{x}\)

Infograffeg yn dangos sut i wneud x yn destun y fformiwla y = 4x + 5 wedi ei rannu â x i roi x = 5 wedi ei rannu ag y - 4.

Question

Gwna \(\text{x}\) yn destun y fformiwla \(\text{ax + b = cx + d}\)