Ffwythiannau - Uwch yn unigFfwythiannau

Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.

Part ofMathemategAlgebra

Ffwythiannau

Mae ffwythiant yn ffordd o ddisgrifio beth sy’n digwydd i newidyn mewnbwn, er mwyn cael canlyniad yr allbwn.

\(\text{Mewnbwn} \rightarrow \text{FFWYTHIANT} \rightarrow \text{Allbwn}\)

Os meddyliwn ni am ffwythiant syml megis "lluosi â 3", gallwn bennu set o werthoedd allbwn.

Tabl pedair rhes a thair colofn gyda’r penawdau ‘Mewnbwn’, ‘Ffwythiant = lluosi â 3’ ac ‘Allbwn’.

Yn hytrach nag ysgrifennu Ffwythiant = lluosi â 3 gallwn ddefnyddio algebra.

Rydyn ni’n galw’r mewnbwn yn \(x\) ac yn byrhau ffwythiant \({x}\) i \(f(x)\):

\(f(x) = 3x\)

Gall y ffwythiant fod yn fwy cymhleth a chynnwys algebra. Yn yr enghraifft isod, pan fo'r mewnbwn yn \({x}\), y ffwythinat yw'r mewnbwn wedi ei sgwario, adio 1.

\(f(x) = x^2 + 1\)

Gallwn ysgrifennu hyn mewn tabl:

Tabl pedair rhes a thair colofn gyda’r penawdau ‘x’, ‘f(x) = x wedi ei sgwario + 1’ a ‘f(x)’.

Question

Canfydda’r gwerthoedd allbwn i gwblhau’r tabl ar gyfer y ffwythiant:

\(f(x) = 2x^2 - 3\)

Tabl pedair rhes anghyflawn, a thair colofn gyda’r penawdau ‘x’, ‘f(x) = 2x wedi ei sgwario – 3’ a ‘f(x)’.

Ar ffurf graff, mae, \(f(x) = x^2\) yr un fath â graff \(y = x^2\). Mae’n ddefnyddiol i ni ysgrifennu graffiau fel ffwythiannau ar ffurf \(f(x)\) wrth wneud trawsfudiadau ac adlewyrchiadau ar graffiau.