Ffwythiannau - Uwch yn unigYmestyn a chywasgu graffiau

Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.

Part ofMathemategAlgebra

Ymestyn a chywasgu graffiau

Ymestyn graffiau

Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(af(x) = a(x^2)\). Mae hyn yn dweud wrthyn ni bod angen i ni luosi pob un o’r cyfesurynnau \(y\) ar y graff ag \(a\) er mwyn ymestyn y graff gwreiddiol.

Enghraifft

\(f(x) = x^2\)

\(3f(x) = 3x^2\)

Gan edrych ar rai cyfesurynnau, rydyn ni’n gwybod bod \(f(x) = x^2\) yn mynd drwy \(\left(-2, 4\right)\), \(\left(-1, 1\right)\), \(\left(0, 0\right)\), \(\left(1, 1\right)\), \(\left(2, 4\right)\) ymysg pwyntiau eraill.

Ar gyfer \(3f(x) = 3x^2\) mae angen i ni luosi pob un o’r cyfesurynnau \(y\) â 3 er mwyn pennu safle ymestynedig y graff.

\(\left(-2, 4\right) \rightarrow \left(-2, 12\right)\)

\(\left(-1, 1\right) \rightarrow \left(-1, 3\right)\)

\(\left(0, 0\right) \rightarrow \left(0, 0\right)\)

\(\left(1, 1\right) \rightarrow \left(1, 3\right)\)

\(\left(2, 4\right) \rightarrow \left(2, 12\right)\)

Graff f(x) = x wedi ei sgwario a 3f(x) = 3x wedi ei sgwario

Cywasgu graffiau

Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(f(ax) = (ax)^2\). Mae hyn yn dweud wrthyn ni bod angen i ni rannu pob un o’r cyfesurynnau \(x\) ar y graff ag \(a\) er mwyn cywasgu’r graff gwreiddiol.

Enghraifft

\(f(x) = x^2\)

\(f(2x) = (2x)^2\)

Gan edrych ar yr un cyfesurynnau eto, ar gyfer \(f(2x) = (2x)^2\) mae angen i ni rannu pob un o’r cyfesurynnau \(x\) â 2 er mwyn pennu safle cywasgedig y graff.

\(\left(-2, 4\right) \rightarrow \left(-1, 4\right)\)

\(\left(-1, 1\right) \rightarrow \left(-0.5, 1\right)\)

\(\left(0, 0\right) \rightarrow \left(0, 0\right)\)

\(\left(1, 1\right) \rightarrow \left(0.5, 1\right)\)

\(\left(2, 4\right) \rightarrow \left(1, 4\right)\)

Graff f(x) = x wedi ei sgwario a f(2x) = (2x) wedi ei sgwario