DilyniannauDilyniannau cwadratig

Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu’n ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.

Part ofMathemategAlgebra

Dilyniannau cwadratig

Dilyniannau cwadratig yw dilyniannau sy’n cynnwys term \(n^2\). Gallwn eu hadnabod gan nad yw’r gwahaniaeth rhwng y termau’n hafal, ond mae’r ail wahaniaeth rhwng y termau’n hafal.

Enghraifft un

Cyfrifa’r \(n\)fed term yn y dilyniant 2, 5, 10, 17, 26, ...

Dilyniant rhif a’r termau 2, 5, 10, 17, 26. Y gwahaniaeth cyntaf rhwng y termau yw +3, +5, +7, +9. Yr ail wahaniaeth rhwng y termau yw +2

Cyfrifa’r gwahaniaethau cyntaf rhwng y termau. Nid yw’r gwahaniaethau cyntaf yr un fath, felly cyfrifa’r ail wahaniaethau.

Mae’r ail wahaniaethau yr un fath. Mae’r dilyniant yn un cwadratig a bydd yn cynnwys term \(n^2\) Mae \(n^2\) bob amser yn hanner yr ail wahaniaeth. Yn yr enghraifft hon, yr ail wahaniaeth yw 2. Hanner 2 yw 1, felly cyfernod \(n^2\) yw 1.

Er mwyn cyfrifo’r \(n\)fed term yn y dilyniant, ysgrifenna’r rhifau yn y dilyniant \(n^2\) a chymhara’r dilyniant hwn â’r dilyniant yn y cwestiwn.

Tabl 4 colofn gyda thair rhes wedi eu labelu â ‘n wedi ei sgwario’, ‘Gweithrediad’ a ‘Dilyniant’.

Yn yr enghraifft hon, mae angen i ti adio \(1\) at \(n^2\) er mwyn cyd-fynd â’r dilyniant. Y dilyniant felly yw \(n^2 + 1\).

Enghraifft dau

Cyfrifa’r \(n\)fed term yn y dilyniant 5, 11, 21, 35, ...

Dilyniant rhif gyda’r termau 5, 11, 21, 35. Y gwahaniaethau cyntaf rhwng y termau yw +6, +10, +14. Yr ail wahaniaethau rhwng y termau yw +4

Cyfrifa’r gwahaniaethau cyntaf rhwng y termau. Nid yw’r gwahaniaethau cyntaf yr un fath, felly cyfrifa’r ail wahaniaethau.

Mae’r ail wahaniaeth yr un fath felly mae’r dilyniant yn un cwadratig a bydd yn cynnwys term \(n^2\). Mae cyfernod \(n^2\) yn hanner yr ail wahaniaeth, sef 2. Bydd y dilyniant yn cynnwys \(2n^2\), felly defnyddia hwn:

Tabl 4 colofn gyda thair rhes wedi eu labelu â ‘2n wedi ei sgwario’, ‘Gweithrediad’ a ‘Dilyniant’.

Y dilyniant yw \(2n^2 + 3\)