DilyniannauDefnyddio’r nfed term ar gyfer dilyniannau llinol

Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu’n ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.

Part ofMathemategAlgebra

Defnyddio’r nfed term ar gyfer dilyniannau llinol

Os ydyn ni’n gwybod beth yw’r \(n\)fed term mewn unrhyw ddilyniant, mae’n bosib i ni gyfrifo unrhyw rif yn y dilyniant hwnnw.

Enghraifft

Ysgrifenna bum term cyntaf y dilyniant \(3n + 4\).

Mae \(n\) yn cynrychioli’r safle yn y dilyniant. Y term cyntaf yn y dilyniant yw pan fo \(n = 1\), yr ail derm yn y dilyniant yw pan fo \(n = 2\), ac yn y blaen.

I ganfod y termau, dylet amnewid \(n\) yn lle rhif y safle:

  • pan fo \(n = 1\), \(3n + 4 = 3 \times 1 + 4 = 3 + 4 = 7\)
  • pan fo \(n = 2\), \(3n + 4 = 3 \times 2 + 4 = 6 + 7 = 10\)
  • pan fo \(n = 3\), \(3n + 4 = 3 \times 3 + 4 = 9 + 4 = 13\)
  • pan fo \(n = 4\), \(3n + 4 = 3 \times 4 + 4 = 12 + 4 = 16\)
  • pan fo \(n = 5\), \(3n + 4 = 3 \times 5 + 4 = 15 + 4 = 19\)

Pum term cyntaf y dilyniant: \(3n + 4\) yw \(7, 10, 13, 16, 19, ...\)

Cyfrifo termau mewn dilyniant

Pan fo’r \(n\)fed term yn hysbys, gallwn ei ddefnyddio i gyfrifo termau penodol mewn dilyniant. Er enghraifft, gallwn gyfrifo’r 50fed term heb gyfrifo’r 49 term cyntaf, a fyddai’n cymryd llawer iawn o amser.

Question

Beth yw’r 100fed term yn y dilyniant \(5n - 3\)?

Question

A yw’r rhif 14 yn y dilyniant \(4n + 2\)?