DilyniannauDefnyddio’r nfed term: dilyniannau cwadratig

Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu’n ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.

Part ofMathemategAlgebra

Defnyddio’r nfed term ar gyfer dilyniannau cwadratig

Os yw \(n\)fed term dilyniant cwadratig yn hysbys, gallwn gyfrifo’r termau yn y dilyniant hwnnw, yn ogystal â defnyddio ein gwybodaeth am ddatrys hafaliadau er mwyn penderfynu a yw rhif penodol yn derm yn y dilyniant.

Enghraifft

Ysgrifenna bum term cyntaf y dilyniant \(2n^2 + 1\)

Mae \(n\) yn cynrychioli’r safle yn y dilyniant. Y term cyntaf yn y dilyniant yw pan fo \(n = 1\), yr ail derm yn y dilyniant yw pan fo \(n = 2\), ac yn y blaen.

Er mwyn canfod y termau, amnewidia rif y safle am \(n\).

Term 1af: \(n = 1\)

Infograffeg yn dangos sut i ganfod term cyntaf y dilyniant 2n wedi ei sgwario + 1. Y term cyntaf yw 3.

2il derm: \(n = 2\)

Infograffeg yn dangos sut i ganfod ail derm y dilyniant 2n wedi ei sgwario + 1. Yr ail derm yw 9.

3ydd term: \(n = 3\)

Infograffeg yn dangos sut i ganfod trydydd term y dilyniant 2n wedi ei sgwario + 1. Y trydydd term yw 19.

4ydd term: \(n = 4\)

Infograffeg yn dangos sut i ganfod pedwerydd term y dilyniant 2n wedi ei sgwario + 1. Y pedwerydd term yw 33.

5ed term: \(n = 5\)

Infograffeg yn dangos sut i ganfod pumed term y dilyniant 2n wedi ei sgwario + 1. Y pumed term yw 51.

Felly pum term cyntaf y dilyniant \(2n^2 + 1\) yw 3, 9, 19, 33, 51.

Question

Canfydda bum term cyntaf y dilyniant gyda’r \(n\)fed term yn \(3n^2 - 2\).

Cyfrifo termau mewn dilyniant

Pan fo’r \(n\)fed term yn hysbys, gallwn ei ddefnyddio i gyfrifo termau penodol mewn dilyniant.

Enghraifft

Beth yw’r 50fed term yn y dilyniant \(2n^2 + 7\)?

Mae \(n = 50\) ar gyfer y 50fed term. Felly i ganfod hwn, mae angen i ni amnewid 50 yn lle \(n\).

\(2n^2 + 7\) = (2 × 502) + 7 = 5,007

Question

Beth yw’r 20fed term yn y dilyniant \(5n^2 - 4\)?

Enghraifft

A yw’r rhif 100 yn y dilyniant \(4n^2 - 10\)?

Er mwyn cyfrifo a yw 100 yn y dilyniant ai peidio, rho’r \(n\)fed term yn hafal i’r rhif a datrysa’r hafaliad.

Infograffeg yn dangos sut i ganfod a yw 100 yn y dilyniant 4n wedi ei sgwario - 10. n wedi ei sgwario yw 27.5.

Gan nad yw ail isradd 27.5 yn rhif cyfan, rydyn ni’n gwybod nad yw 100 yn y dilyniant.

Question

A yw’r rhif 150 yn y dilyniant \(3n^2 + 3\)?