Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu’n ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.
Mae safle gan bob term mewn dilyniant. Mae’r term cyntaf yn safle 1, mae’r ail derm yn safle 2 ac yn y blaen.
Mae rheolau safle i derm yn defnyddio algebra i gyfrifo pa rif sydd mewn dilyniant, os yw ei safle yn y dilyniant yn hysbys. Yr enw arall ar hyn yw’r \(n\)fed term, sef rheol safle i derm sy’n cyfrifo term yn safle \(n\), lle mae \(n\) yn golygu unrhyw safle yn y dilyniant.
Cyfrifo rheolau safle i derm
Enghraifft
Cyfrifa’r rheol safle i derm yn y dilyniant canlynol:
5, 6, 7, 8, ...
Yn gyntaf, ysgrifenna’r dilyniant a safle pob term.
Nesaf, meddylia sut i fynd o’r safle i’r term.
Yn yr enghraifft hon, i fynd o’r safle i’r term, cymera rif y safle ac adia 4.
Os mai \(n\) yw’r safle, yna’r rheol safle i derm yw \(n + 4\).
Yr nfed term
Yr \(n\)fed term mewn dilyniant yw’r rheol safle i derm gan ddefnyddio \(n\) i gynrychioli rhif y safle.
Enghraifft
Cyfrifa’r \(n\)fed term yn y dilyniant canlynol:
3, 5, 7, 9, ...
Yn gyntaf, ysgrifenna’r dilyniant a safleoedd y termau.
Gan nad oes ffordd amlwg i fynd o’r safle i’r term, edrycha am wahaniaeth cyffredin rhwng y termau. Yn yr achos hwn, mae yna wahaniaeth o 2 bob tro.
Mae’r gwahaniaeth cyffredin hwn yn disgrifio’r tabl lluosi mae’r dilyniant yn gweithio ynddo. Yn y dilyniant hwn, tabl lluosi â 2 sydd dan sylw.
Ysgrifenna’r tabl lluosi â 2 a chymhara bob term yn y dilyniant â’r tabl lluosi â 2.
I fynd o’r safle i’r term, yn gyntaf lluosa’r safle â 2, yna adia 1. Os mai \(n\), yw’r safle, mae’n \(2 \times n + 1\) a gallwn ysgrifennu hyn fel \(2n + 1\).
Question
Cyfrifa’r hafaliad \(n\)fed term ar gyfer y dilyniant canlynol:
6, 13, 20, 27, …
Y gwahaniaeth cyffredin yw +7
Cymhara’r dilyniant â’r tabl lluosi â 7:
7, 14, 21, 28, …
Rhaid i ni dynnu 1 o’r tabl lluosi â 7 er mwyn cael ein dilyniant. Felly term \(n\) yw \(7n - 1\).