Effeithiolrwydd personolMathau o bersonoliaethau

Wrth gymryd rhan mewn her gymunedol, mae’n bwysig deall effeithiolrwydd personol a gwerth myfyrdod. Mae cynllun datblygiad personol yn helpu i ganfod sgiliau sydd angen eu gwella.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her y gymuned

Mathau o bersonoliaethau

Mae llawer o ddamcaniaethau sy’n ymwneud â mathau o bersonoliaethau. Un o’r rhain yw Dangosydd Math Myers-Briggs ac mae’n ffordd ddefnyddiol o ddatblygu effeithiolrwydd tîm.

Cafodd damcaniaeth mathau o bersonoliaethau Myers-Briggs ei chreu gan Katharine Cook Briggs a’i merch Isabel Briggs Myers yn y 1940au. Mae’n theori boblogaidd ac mae’n dal i gael ei defnyddio heddiw gan lawer o sefydliadau. Mae 89 y cant o’r 100 cwmni cyhoeddus a phreifat mwyaf yn Unol Daleithiau America yn dweud eu bod yn defnyddio’r theori.

Mae’n seiliedig ar bedwar pegwn neu bwynt eithaf sy’n gysylltiedig â math o bersonoliaeth:

  • mewnblyg/allblyg
  • synhwyro/defnyddio greddf
  • meddwl/teimlo
  • barnu/canfod

Mae 16 o wahanol fathau o bersonoliaethau, ac mae’r math o bersonoliaeth sydd gan rywun yn dibynnu ar ei safle rhwng pob pegwn eithaf. Mae’r safle’n cael ei ddewis ar sail ymatebion i gyfres o gwestiynau.

Mae llawer o wahanol fersiynau o Ddangosydd Math Myers-Briggs i’w gweld ar-lein. Os gwnei di roi'r geiriau ‘Dangosydd Math Myers-Briggs’ neu ‘Myers-Briggs Type Indicator’ mewn peiriant chwilio, fe weli di lawer o ddewisiadau. Pa fath o bersonoliaeth wyt ti?

More guides on this topic