Myfyrio
Mae myfyrio yn golygu meddwl am ddigwyddiad, proses neu brofiad ac ystyried y canlynol:
- beth aeth yn dda
- beth aeth ddim cystal
- beth fyddai’n bosibl ei wneud yn well
Mae’n bosibl defnyddio’r cynllun datblygu fel man cychwyn ar gyfer y broses fyfyrio. Galli di edrych ar yr amcanion datblygu a meddwl pa mor dda rwyt ti wedi eu cyflawni.
Wrth fyfyrio, byddi di’n gwerthuso dy rôl neu dy gyfraniad personol di i’r broses o gynllunio a chyflawni tasgau. Bydd yn gyfle i ti asesu dy ddatblygiad, a bydd yn dy helpu i ddeall sut i gymhwyso dy sgiliau personol a dy allu i weithio mewn tîm.
Mae llawer o wahanol dechnegau sy’n gallu cyfrannu tuag at y broses fyfyrio. Mae’r technegau hyn yn cynnwys:
- hunanwerthusiad
- gwerthusiad gan gymheiriaid neu gyfoedion
- gwerthusiad gan rhanddeiliadRhywun â pherthynas neu gyfran mewn rhywbeth.