Rolau tîm nodweddiadol
Dyma’r mathau o rolau sydd i’w gweld fel arfer mewn tîm nodweddiadol:
- arweinydd tîm
- ysgrifennydd tîm
- trysorydd
- swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
- rheolwr gweithrediadau
Arweinydd tîm
Mae gan arweinydd tîm rôl allweddol i’w chwarae wrth wneud penderfyniadau. Yr arweinydd fydd yn cadeirioArwain cyfarfod yn swyddogol. cyfarfodydd ac yn sicrhau bod yr agenda Rhestr o eitemau i’w trafod mewn cyfarfod. ar gyfer pob cyfarfod yn cael ei dilyn. Bydd hefyd yn llywio’r drafodaeth ac yn sicrhau bod pawb yn gwybod beth mae disgwyl iddo ei wneud.
Ysgrifennydd tîm
Mae ysgrifennydd tîm yn gyfrifol am gofnodi beth gafodd ei ddweud mewn cyfarfodydd ac mae’n nodi unrhyw gamau sydd angen eu cymryd ar ôl y cyfarfod. Bydd yn paratoi cofnodion Gallai cofnodion cyfarfod gynnwys gwybodaeth am yr hyn gafodd ei drafod, a gwybodaeth am bwy oedd yn bresennol yn y cyfarfod a phwy oedd wedi ymddiheuro. ar gyfer pob cyfarfod ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod dyddiad y cyfarfod nesaf. Bydd hefyd yn ymdrin ag unrhyw dasgau gweinyddol eraill sydd angen eu gwneud, er enghraifft ateb galwadau ffôn, ymateb i negeseuon ebost neu ymdrin â chyflenwyr.
Trysorydd
Y trysorydd sy’n cadw llygad ar faterion ariannol y tîm. Mae hyn yn golygu bod ganddo systemau ariannol effeithiol sy’n cofnodi manylion am gyllid, gwerthiant, costau, codi arian a stoc. Mae’r trysorydd yn gwneud yn siŵr nad yw’r tîm yn mynd i drafferthion ariannol. Mae hefyd yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
Mae’r swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn gyfrifol am ddeall anghenion cwsmeriaid. Bydd yn gwneud ymchwil marchnad er mwyn canfod beth yw’r ffordd orau o ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Gallai olygu canfod a oes galw am y gwasanaeth, digwyddiad neu gynnyrch, ac os oes, beth fyddai’r pris mwyaf addas i’w godi. Mae cysylltiadau cyhoeddus yn cyfeirio at y ffordd mae cwmni’n cyfathrebu â’r cyhoedd. Yn aml, bydd y swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i dargedu cwsmeriaid ar gyfer digwyddiad codi arian, er enghraifft.
Rheolwr gweithrediadau
Mae rheolwr gweithrediadau yn gwneud yn siŵr fod popeth yn barod er mwyn cynnal digwyddiad neu wneud rhywbeth i wella’r gymdogaeth. Er enghraifft, pe bai tîm yn bwriadu peintio murlun ar wal mewn parc, byddai’n rhaid i’r rheolwr gweithrediadau:
- ofyn am ganiatâd perchennog y parc
- prynu paent a brwshys paent
- cadarnhau’r cynllun a threfnu pa bryd bydd y gweithgaredd yn digwydd.
Pan fydd pawb yn ymwybodol o’i rôl yn y tîm a’r tasgau sy’n gysylltiedig â’r rôl honno, dylai’r tîm allu cyflawni ei nod.