Gwaith tîm
Wrth weithio mewn tîm, mae’n bwysig fod pawb yn gwybod beth dylai fod yn ei wneud. Fel arall, mae’n bosibl na fydd y tîm yn cyflawni ei nodau a’i amcanion cyffredinol.
Enghraifft bywyd go iawn
Llwyddodd tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA yn 2016, a hynny’n gwbl annisgwyl. Pwysleisiodd ymosodwr Cymru, Gareth Bale, fod gwaith tîm yn elfen bwysig o’u llwyddiant.
Gareth Bale yn siarad am bwysigrwydd gwaith tîm (Cynnwys Saesneg)
Rydyn ni’n gwybod mai’r tîm yw’r peth pwysicaf un. Alla i ddim sgorio os nad oes rhywun yn pasio’r bêl i mi. Felly, os nad ydyn ni’n cadw’r bêl o’n rhwyd ein hunain dydyn ni ddim yn ennill. Os nad ydyn ni’n sgorio dydyn ni ddim yn ennill. Mae popeth yn troi o amgylch y tîm, nid un chwaraewr.
Dyrannu rolau tîm
Mae o leiaf dair ffordd wahanol o ddyrannu rolau i bob unigolyn mewn tîm. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dewis y person mwyaf cymwys neu fwyaf profiadol i gyflawni rôl benodol – gallai hyn hefyd fod yn seiliedig ar holiadur rolau tîm Belbin neu asesiad dangosydd math Myers-Briggs
- gofyn i bobl pa rôl byddent yn hoffi ei chyflawni
- rhoi rôl i rywun sydd â dim profiad o rôl benodol – mae hyn yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rôl anghyfarwydd er mwyn cael profiad o gyflawni’r rôl honno
Gallai rolau fod yn sefydlog drwy gydol oes y tîm. Mae hyn yn golygu bod pawb yn aros yn yr un rôl.
Opsiwn arall byddai cylchdroi’r rolau o bryd i'w gilydd. Mae hyn yn golygu byddai pawb yn cael y cyfle i roi cynnig ar rôl wahanol.