Sgiliau
Mae sgiliau yn cyfeirio at y pethau rydym yn gallu eu gwneud yn dda.
Mae dau fath o sgiliau:
- sgiliau meddal
- sgiliau caled
Mae meddu ar sgiliau caled a sgiliau meddal sydd wedi eu datblygu’n dda yn bwysig iawn.
Sgiliau meddal
Mae sgil meddal yn sgil cyffredinol.
Mae sgiliau meddal fel arfer yn sgiliau rwyt ti’n eu dysgu ac yn eu datblygu dy hun. Gallant gynnwys:
- cyfathrebu
- gwaith tîm
- datrys problemau
- rheoli amser
- blaengaredd
Sgiliau caled
Mae sgil caled yn sgil penodol.
Mae sgiliau caled fel arfer yn cael eu dysgu drwy addysg a hyfforddiant. Gallant gynnwys:
- llythrennedd gyfrifiadurol
- sgiliau cyfrifeg
- cymhwysterau ffurfiol
- y gallu i siarad iaith dramor
Enghraifft bywyd go iawn
The Boeing Company yw cwmni awyrofod mwya’r byd, a phrif wneuthurwr awyrennau jet masnachol. Mae hefyd yn cynhyrchu systemau ar gyfer y gofod, a systemau amddiffyn a diogelwch. Mae Rick Stephens, a oedd arfer â bod yn Brif Is-lywydd Adnoddau Dynol a Gweinyddiaeth yn The Boeing Company, yn credu mai’r sgiliau pwysicaf yn y gweithle yw gallu rhyngweithio a chyfathrebu, ynghyd â’r gallu i dderbyn cyfrifoldeb a thrin pobl yn deg.

Does 'na ddim un sgil penodol rhaid i bobl feddu arno er mwyn gweithio i ni. Ond galla' i ddweud wrthych chi pam rydym yn cael gwared ar bobl: diffyg sgiliau meddal. Rydym yn cyflogi pobl sydd â sgiliau caled. Rydym yn cael gwared ar bobl sydd â diffyg sgiliau meddal. Yn aml iawn, yr elfen sy’n gadael pobl i lawr yw’r gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl eraill, neu i ymddwyn yn foesol a derbyn cyfrifoldeb.