Cynllun datblygiad personol
Ar ôl i ti gwblhau archwiliad sgiliau, byddai'n syniad da gwneud cynllun datblygiad personol.
Mae cynllun datblygiad personol yn ffordd o ddysgu sgiliau newydd, neu gall helpu i ddatblygu sgiliau sydd gen ti'n barod.
Mae cynllun yn gallu cynnwys y canlynol:
- amcanion datblygu
- gweithgareddau
- cefnogaeth/adnoddau
- dyddiadau pwysig
Amcanion datblygu
Dyma ble rwyt ti’n rhestru’r sgiliau meddal a chaled rwyt ti eisiau eu dysgu neu eu gwella.
Gweithgareddau
Ar gyfer pob sgil rwyt ti eisiau ei ddatblygu, bydd angen i ti feddwl sut galli di wneud hyn. Er enghraifft, os wyt ti eisiau datblygu dy sgiliau TG, efallai byddi di'n dewis cofrestru ar gwrs ar-lein rhad ac am ddim.
Cefnogaeth/adnoddau
Dyma ble rwyt ti’n rhestru unrhyw gefnogaeth a allai dy helpu di i gyflawni dy amcanion datblygu. Er enghraifft, er mwyn datblygu dy sgiliau TG bydd angen i ti gael cyfrifiadur. Hefyd, efallai byddi di eisiau gofyn am gefnogaeth benodol gan athro neu athrawes.
Dyddiadau pwysig
Gall dyddiadau pwysig gynnwys dyddiadau adolygu a dyddiadau rwyt ti’n eu nodi ar gyfer cwblhau gweithgareddau. Bydd dyddiadau adolygu yn rhoi cyfle i ti fyfyrio a gweld faint o gynnydd rwyt ti wedi ei wneud. Wyt ti’n gweithio’n dda ac yn dod yn nes at gyflawni dy amcanion, neu a oes angen i ti weithio’n galetach?