Sgiliau personol
Mae sgiliau personol hefyd yn enghreifftiau o sgiliau meddal, ac maent yn cynnwys y canlynol.
Dibynadwyedd
Ystyr dibynadwyedd yw'r gallu i ymddiried yn rhywun i wneud rhywbeth. Mae pobl ddibynadwy yn gyfrifol.
Blaengaredd
Mae hyn yn golygu cymryd yr awenau cyn i rywun arall wneud hynny er mwyn ceisio gwella sefyllfa, setlo anghydfod neu ddatrys problem.
Hyblygrwydd
Mae pobl hyblyg yn barod i dderbyn ffyrdd newydd o wneud pethau. Maen nhw'n fodlon newid eu cynlluniau neu eu gweithredoedd, ac yn gallu gwneud hynny’n effeithiol er mwyn ymdopi â sefyllfaoedd newydd.
Annibyniaeth
Mae hyn yn golygu gallu gwneud rhywbeth heb fod angen llawer o help neu gymeradwyaeth.
Proffesiynoldeb
Mae pobl broffesiynol yn bwyllog a bob amser yn gwneud eu gorau i gyflawni nodau’r sefydliad maen nhw'n gweithio iddo.
Datrys problemau
Mae hyn yn golygu gallu adnabod problemau, canfod achosion posibl a meddwl am atebion.
Question
Edrycha ar y sgiliau pobl a’r sgiliau personol unwaith eto. Pa rai yw’r rhai pwysicaf ar gyfer hyfforddwr Rhywun sy’n dysgu, yn cyfarwyddo neu’n hyfforddi unigolyn, grŵp neu dîm o bobl. tîm neu glwb, a pham?
- Mae sgiliau siarad yn bwysig iawn, oherwydd mae angen cyfathrebu’n effeithiol wrth hyfforddi pobl.
- Mae sgiliau gwrando gweithredol yn bwysig hefyd, oherwydd mae angen gwrando ar y person sy’n cael ei hyfforddi.
- Mae dibynadwyedd yn bwysig – mae angen mynychu’r sesiynau hyfforddi.
Question
Edrycha ar y sgiliau pobl a’r sgiliau personol unwaith eto. Pa rai yw’r rhai pwysicaf os wyt ti’n ymwneud â phroject gwella’r gymdogaeth Gwneud yr ardal leol yn well. yn y gymuned leol, a pham?
- Mae sgiliau perswadio yn bwysig, oherwydd efallai bydd angen perswadio pobl eraill i helpu i wella’r gymdogaeth.
- Byddai sgiliau datrys problemau yn bwysig hefyd, oherwydd bydd rhaid dod o hyd i rywbeth sydd angen ei wella yn y gymdogaeth.