Sgiliau pobl
Yn gyffredinol, mae sgiliau pobl yn enghreifftiau o sgiliau meddal, ac maen nhw'n gallu cynnwys y canlynol.
Gweithio mewn tîm
Mae hyn yn golygu deall rolau a chyfrifoldebau pawb. Mae hefyd yn golygu hyrwyddo perthynas gadarnhaol gyda phobl eraill drwy ddefnyddio ymddygiadau priodol gan gynnwys cydweithredu Gweithio gyda phobl eraill er mwyn cyflawni budd cyffredin., cyfaddawdu Setlo dadl drwy addasu gofynion neu newid barn er mwyn dod i gytundeb., annogCefnogi a rhoi hyder. a dangos parch.
Bod yn agored
Mae bod yn agored yn golygu gallu ymddwyn a chyfathrebu yn onest gyda gwahanol fathau o bobl. Dyma’r gwrthwyneb i guddio gwybodaeth oddi wrth bobl eraill.
Siarad
Dyma sgil sy'n golygu gallu cyflwyno gwybodaeth yn hyderus ac yn glir i bobl. Gallai hyn olygu siarad ag un person yn unig neu â grŵp mawr o bobl.
Perswadio
Mae hyn yn golygu gallu cael pobl eraill i gefnogi dy syniadau neu dy gynigion di.
Arweinyddiaeth
Dyma’r gallu i gyfathrebu ac arwain pobl eraill tuag at nod neu weledigaeth. Mae arweinwyr yn gallu perswadio pobl eraill a sicrhau newid neu ganlyniadau cadarnhaol.
Gwrando gweithredol
Mae pobl sydd â’r sgil hwn yn gallu gwrando heb dorri ar draws. Maen nhw'n gallu rhoi eu holl sylw i’r hyn mae rhywun arall yn ei ddweud. Byddan nhw'n gofyn cwestiynau ac yn meddwl yn ofalus am beth sy’n cael ei ddweud er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn iawn.