Gwaith gwirfoddol
Mae gwirfoddoli yn golygu unrhyw weithgaredd lle mae rhywun yn treulio amser yn gwneud rhywbeth sydd o fudd i’r amgylchedd, i unigolyn neu i grwpiau o unigolion heb dderbyn tâl am wneud hynny.
Mae gwirfoddoli yn fuddiol oherwydd:
- mae’n gyfle i bobl roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
- mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol
- mae’n gyfle i ehangu gwybodaeth a phrofiadau
- mae’n gyfle i ddatblygu a gwella sgiliau, ee bydd gwirfoddoli mewn clwb ieuenctid yn datblygu sgiliau gweithio mewn tîm, cynllunio, trefnu a chyfathrebu
