Cynllunio a threfnuY gymuned leol

Mae gwirfoddoli yn y gymuned leol yn rhoi llawer o foddhad i ni. Mae gosod nodau ac amcanion priodol, yn ogystal â chymhwyso sgiliau rheoli project, yn rhan o’r broses o gynllunio a threfnu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her y gymuned

Y gymuned leol

Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli mewn cymuned leol. Gall y cyfleodd gynnwys:

  • cyfleoedd cymdeithasol a lles
  • gwella cymdogaeth
  • hyfforddi

Cyfleoedd cymdeithasol a lles

Mae cyfleoedd cymdeithasol a lles yn ymwneud ag:

  • ymweld yn rheolaidd â chartref gofal i gadw cwmni i rywun fydd yn mwynhau'r cyfle i gael sgwrs
  • helpu i redeg grŵp ieuenctid
  • cymryd rhan mewn cynlluniau, ee y banc bwyd lleol

Gwella cymdogaeth

Mae hyn yn golygu gwneud yr ardal leol yn well. Gallai gynnwys:

  • gwneud ardal yn fwy diogel drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd casglu sbwriel
  • gwneud amgylchedd yn fwy dymunol drwy greu murlun
  • helpu i adfer ardal o harddwch naturiol, fel gardd sydd wedi mynd yn wyllt

Hyfforddi

Techneg i helpu eraill i wella, datblygu neu ddysgu sgiliau newydd yw hyfforddi. Mae’n weithgaredd sydd wedi’i gynllunio ac mae’n digwydd yn rheolaidd. Mae’n canolbwyntio ar gyrraedd targedau neu gael . Gallai hyfforddi gynnwys:

  • hyfforddi plant ifanc mewn chwaraeon
  • hyfforddi pensiynwyr i ddefnyddio TG
  • hyfforddi rhywun i siarad iaith arall

Mae cymryd rhan mewn cyfleoedd cymdeithasol a lles, gwella cymdogaeth neu gyfleoedd hyfforddi yn helpu pobl i feithrin ymdeimlad o hunan-werth, hunan-barch a hunanhyder. Mae’n cael ei ystyried yn gyffredinol fel profiad buddiol iawn.

Peidiwch byth â diystyru eich gallu i wneud bywyd rhywun arall yn well – hyd yn oed os nad ydych byth yn gwybod hynny.
Greg Louganis, deifiwr Olympaidd o America

More guides on this topic