Cynllunio – cynllunio’r gwaith
Yn aml, bydd siart Gantt yn cael ei ddefnyddio wrth reoli project. Cafodd ei enwi ar ôl Henry Gantt, peiriannydd mecanyddol o America a ddyfeisiodd y siart yn y 1910au.
Math o siart bar yw siart Gantt. Mae’n ddarlun gweledol o amlinelliad y project, ac yn cael ei arddangos fel barrau ar galendr.
Mae llawer o gymwysiadau am ddim ar-lein sy’n creu siartiau Gantt. Er hyn, mae’n bosibl creu siart â llaw, heb gyfarpar electronig, drwy ddilyn y camau isod.
Cam un - Tasgau
Gwna restr o dasgau mae angen eu cwblhau. Dylai’r tasgau hyn fod yn benodol iawn, felly yn hytrach na nodi ‘cyfarfod’ dylai’r dasg nodi ‘cyfarfod ynglŷn â chyllid’ neu efallai ‘cyfarfod gyda threfnwyr y ganolfan’.
Cam dau - Neilltuo rolau
Penderfyna yn union pwy all wneud pob tasg, a faint o amser bydd ei angen arnynt. Gelli di nodi'r amser mewn oriau neu mewn dyddiau. Yn aml iawn mae llythrennau cyntaf enwau’n cael eu defnyddio i ddangos pwy sy’n gyfrifol am bob tasg.
Cam tri - Gwneud llinellau amser
Mae hyn yn golygu creu tabl. Yn y tabl, bydd angen i ti restru’r tasgau (gweler cam un) ynghyd â’r amser sydd ei angen a phwy sy’n gyfrifol (gweler cam dau). Dylai’r tabl edrych fel hyn:
Cam pedwar – Penderfynu ar drefn y tasgau
Mae angen ychwanegu colofn arall at y tabl er mwyn gwneud hyn.
Os yw’r project yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o waith lloches leol i anifeiliaid, efallai mai un o’r tasgau fydd dylunio deunydd cyhoeddusrwydd, ee taflenni a phosteri. Ond tasg arall, o bosibl, fydd gofyn i gwmni argraffu eu cynhyrchu nhw. Does dim modd gwneud y dasg hon nes bydd y dasg gyntaf wedi’i gwneud. Mae’n bosibl nodi hefyd os yw rhywbeth yn amherthnasol.
Enghraifft
Dyma enghraifft o siart Gantt.
Mae’n dangos bod Tasg 1 wedi’i hamserlennu i ddechrau ar 21 Mawrth a bod angen ei chwblhau erbyn 24 Mawrth. Felly, bydd yn cymryd tri diwrnod.
Nid yw Tasg 2 yn dibynnu ar gwblhau Tasg 1, felly gall hithau ddechrau ar 21 Mawrth. Ond mae Tasg 2 yn cymryd tan 28 Mawrth, felly bydd yn cymryd saith niwrnod i'w chwblhau.
Question
Edrycha ar y llun o’r siart Gantt uchod.
Mae un dasg yn gorffen ar yr un diwrnod ag y mae tasg arall yn cychwyn. Pa ddiwrnod yw hwn a beth yw’r tasgau?
Ar 30 Mawrth, mae Tasg 4 yn gorffen, a gall Tasg 7 gychwyn.