Rheoli amser
Technegau rheoli amser effeithiol
Blaenoriaethu
Mae hyn yn golygu penderfynu beth sy’n tasg frysTasg sy'n mynnu sylw yn syth ac sydd angen ei chwblhau mewn pryd. Gan amlaf, mae'n ddibynnol ar ddylwanwadau allanol. a beth sy’n tasg bwysigTasg nad oes angen ei chwblhau mewn pryd, ond sydd angen sylw gan ei bod yn gallu effeithio ar eraill. Dydy tasg bwysig ddim o angenrheidrwydd angen sylw yn syth. . Mae gosod y tasgau yn nhrefn eu blaenoriaeth yn syniad da, oherwydd mae’n bosibl neilltuo mwy o amser wedyn i’r tasgau pwysig a’r rhai sydd angen eu gwneud gyntaf. Y duedd naturiol yw canolbwyntio ar dasgau syml.
Trefnu
Techneg ddefnyddiol wrth reoli amser yw defnyddio log amser. Siart wedi’i rannu’n gyfnodau o 30 munud yw hwn. Y syniad yw bod rhywun yn llenwi’r siart â gwybodaeth ynglŷn â beth yn union gafodd ei wneud yn ystod y diwrnod, o amser codi tan amser mynd i’r gwely.
Mae’n ffordd o ganfod yr adegau prysur, yr adegau tawel a’r adegau pan fyddai rhywun wedi gallu gwneud defnydd mwy cynhyrchiol o’i amser.
Gwneud rhestri
Drwy sicrhau bod papur a phensil neu gyfarpar electronig cyfatebol ar gael yn dy fag, gelli di greu a monitro rhestr o bethau i’w gwneud unrhyw bryd. Dylai’r rhestr dynnu sylw at y tasgau pwysig yn ogystal â chofnodi terfynau amser ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.
Dyfalbarhau
Pan fydd problemau'n codi, ac amser yn ymddangos yn brin, paid â chynhyrfu a phoeni'n ormodol.
Mae dyfalbarhau’n golygu meithrin agwedd gadarnhaol at rwystredigaeth a methiant. Mae bod yn bendant ac yn rhagweithiol yn gallu helpu hefyd. Os wyt ti’n gweithio fel rhan o dîm, efallai bydd angen i ti dirprwyoRhoi cyfrifoldeb ac awdurdod i rywun arall gwblhau tasg, er mai’r sawl sy’n dirprwyo sy’n gyfrifol yn y pen draw am lwyddiant y dasg. mwy, neu ofyn am fwy o ymroddiad gan y tîm er mwyn cyflawni prif nod y grŵp.
Peidio ag oedi
Mae oedi yn golygu gohirio pethau. Mae’n debyg mai nawr yw’r amser gorau i wneud rhywbeth rwyt ti wedi bod yn ei ohirio.