Cynllunio effeithiol
Mae cynllunio a threfnu yn sgiliau pwysig. Mae gallu trefnu’n effeithiol yn golygu gallu defnyddio amser, egni ac adnoddau i dy helpu di i gyrraedd dy dargedau.
Yn ôl Benjamin Franklin, un o sefydlwyr yr Unol Daleithiau, os yw rhywun yn cynllunio’n dda mae’n llai tebygol o fethu â sicrhau’r canlyniad arfaethedig.
Os ydych yn methu â chynllunio, rydych yn cynllunio i fethu.
Nodau ac amcanion
Mae gosod nodau ac amcanion yn rhan hanfodol o’r broses gynllunio a threfnu.
Nodau
Y nod yw’r canlyniad rwyt ti'n gobeithio ei gyflawni. Datganiad cyffredinol sy’n ymwneud â’r targedau, y dibenion neu’r bwriadSyniad y cafodd cynlluniau eu gwneud er mwyn ei roi ar waith. cyffredinol yw nod.
Amcanion
Amcanion yw'r camau unigol mae’n rhaid eu cwblhau er mwyn cyrraedd y targedau hynny. Mae amcanion yn fwy penodol, oherwydd mae angen iddynt fod yn ymarferol, yn bosibl eu cyflawni ac o fewn cyrraedd. Fel arfer, mae mwy nag un amcan.
Mae nodau ac amcanion fel arfer yn cael eu hysgrifennu fel berfenwY fersiwn fwyaf sylfaenol o ferf sydd i’w gweld mewn geiriadur., ee:
- datblygu
- dylunio
- creu
Enghraifft
Nod – Gwirfoddoli mewn lloches leol i anifeiliaid, a cheisio codi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn helpu’r lloches i fod yn cynaliadwyeddY gallu i gadw rhywbeth ar gyfradd neu lefel benodol. yn y dyfodol.
- Amcan un – ymchwilio i lochesau anifeiliaid lleol er mwyn dod o hyd i leoliad
- Amcan dau – dysgu sut i ofalu am yr anifeiliaid
- Amcan tri – ymchwilio a chynllunio digwyddiad codi arian
Question
Edrycha ar yr enghreifftiau a ganlyn a dewisa'r nod a’r amcanion:
- rhoi gwersi Ffrangeg amser cinio unwaith yr wythnos i ddisgyblion blwyddyn saith
- darganfod pa ddosbarth sydd ar gael ar gyfer y gwersi
- trefnu cyfarfod gyda’r athro/athrawes Ffrangeg i drafod cynnwys posibl ar gyfer y gwersi
- Nod – rhoi gwersi Ffrangeg amser cinio unwaith yr wythnos i ddisgyblion blwyddyn saith
- Amcan – darganfod pa ddosbarth sydd ar gael ar gyfer y gwersi
- Amcan – trefnu cyfarfod gyda’r athro/athrawes Ffrangeg i drafod cynnwys posibl ar gyfer y gwersi
Question
Edrycha ar yr enghreifftiau a ganlyn a dewisa'r nod a’r amcanion:
- trefnu cyfarfod gyda’r gofalwr i drafod opsiynau
- canfod faint o arian sydd ar gael i wneud y gwaith
- amlinellu sut y gallwn wella’r ardal gyffredin y tu allan i’r ysgol
- casglu gwybodaeth am y mathau o bethau y byddai’r disgyblion yn hoffi eu gweld
- Nod – amlinellu sut y gallwn wella’r ardal gyffredin y tu allan i’r ysgol
- Amcan – trefnu cyfarfod gyda’r gofalwr i drafod opsiynau
- Amcan – casglu gwybodaeth am y mathau o bethau y byddai’r disgyblion yn hoffi eu gweld
- Amcan – canfod faint o arian sydd ar gael i wneud y gwaith
Question
Edrycha ar yr enghreifftiau a ganlyn a dewisa'r nod a’r amcanion:
- trefnu cyfarfod gyda fy nhiwtor i rannu syniadau
- dewis gweithgaredd gwirfoddoli yn fy ardal leol
- edrych ar yr opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael ar-lein
- Nod – dewis gweithgaredd gwirfoddoli yn fy ardal leol
- Amcan – edrych ar yr opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael ar-lein
- Amcan – trefnu cyfarfod gyda fy nhiwtor i rannu syniadau