Cynllunio a threfnuGweithredu – rhoi’r cynllun ar waith

Mae gwirfoddoli yn y gymuned leol yn rhoi llawer o foddhad i ni. Mae gosod nodau ac amcanion priodol, yn ogystal â chymhwyso sgiliau rheoli project, yn rhan o’r broses o gynllunio a threfnu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her y gymuned

Gweithredu – rhoi’r cynllun ar waith

Yn y rhan hon o'r broses cynllunio, bydd angen egluro’n llawn pa dasgau sydd wedi cael eu rhoi i bob unigolyn, a beth yw’r amserlen.

Efallai bydd cychwyn un dasg yn ddibynnol ar gwblhau tasg arall.

Felly, mae'n bwysig cynllunio ar gyfer unrhyw dasgau ychwanegol nad yw hi'n bosibl cychwyn gwaith arnynt nes cwblhau'r dasg wreiddiol.

Monitro a rheoli – rheoli’r cynllun

Mae’r rhan hon o’r broses yn golygu rheoli’r tîm a sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau erbyn y dyddiadau sydd wedi cael eu cytuno.

Os yw’r tasgau’n rhedeg yn hwyr, bydd angen penderfynu sut mae’n bosibl dal i fyny.

Gorffen – dod â’r gwaith i ben

Pan fydd nod cyffredinol y project wedi cael ei gyflawni, bydd yn gallu cael ei orffen yn ffurfiol. Dylid cynnal adolygiad terfynol er mwyn dysgu o’r llwyddiannau a’r camgymeriadau sydd wedi digwydd.

Gall y gwersi sydd wedi’u dysgu helpu projectau i fod yn fwy llwyddiannus yn y dyfodol.

More guides on this topic