Asesiadau risg
Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn 2014/15 roedd tua 611,000 o weithwyr wedi cael anaf nad oedd yn angheuol Heb arwain at farwolaeth. yn y gwaith.
Yn gyffredinol, er bod y cyfraddau hyn yn gostwng yn raddol, y canlyniad oedd bod tua 4.1 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi’u colli.
Ond mae rhesymau eraill pam bod iechyd a diogelwch mor bwysig. Os bydd sefydliad yn cael ei ystyried yn esgeulus, gallai wynebu achos cyfreithiol a dirwy fawr, a gallai arwain at ddedfryd o garchar mewn rhai achosion. Gall wneud niwed mawr i enw da’r sefydliad hefyd.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn nodi ei bod yn ofynnol i sefydliadau wneud asesiadau risg.
Mae asesiadau risg yn ymwneud â phob agwedd o'r sefydliad, gan gynnwys unrhyw weithgareddau sy’n cael eu gwneud, er enghraifft rhaid i ysgol wneud asesiad risg cyn trefnu trip.