Cynllunio a threfnuCamau asesu risg

Mae gwirfoddoli yn y gymuned leol yn rhoi llawer o foddhad i ni. Mae gosod nodau ac amcanion priodol, yn ogystal â chymhwyso sgiliau rheoli project, yn rhan o’r broses o gynllunio a threfnu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her y gymuned

Camau asesu risg

Mae asesiadau risg yn golygu cwblhau cyfres o dasgau mewn trefn benodol.

Diagram petalau o Asesiadau Risg; 1 Nodi peryglon, 2 Nodi pwy a sut, 3 Asesu, 4 Cofnodi, 5 Adolygu.

Cam un – Nodi peryglon

Rhaid gwirio risgiau iechyd a diogelwch mewn ffordd . Mae hyn yn golygu edrych am unrhyw beth a allai achosi niwed. Mae pedwar categori risg:

  • corfforol
  • meddyliol
  • cemegol
  • biolegol

Question

Rho’r risgiau a ganlyn yn y categori risg priodol – Corfforol/Meddyliol/Cemegol/Biolegol.

  • Asbestos
  • Codi eitemau trwm neu anodd eu trin
  • Llwyth gwaith gormodol
  • Peiriannau
  • Clefydau heintus
  • Cyfarpar ddim yn gweithio’n iawn
  • Gormod o oriau gwaith
  • Bwlio
  • Niwed ar ôl dod i gysylltiad â hylifau glanhau
  • Pethau gallai rhywun syrthio drostynt
  • Sŵn rhy uchel
  • Anadlu llwch

Cam dau – Nodi pwy a sut

Ar ôl nodi’r risgiau, bydd angen i sefydliad benderfynu pwy allai gael niwed a sut. Nid enwi unigolion mae hyn yn ei olygu, ond nodi grwpiau o bobl a dweud beth yw’r risg iddynt.

Question

Gan gyfeirio’n ôl at y pedwar categori, sef peryglon corfforol/meddyliol/cemegol/biolegol, pa gategori fyddai’n achosi’r risg fwyaf i staff sy’n llenwi silffoedd mewn archfarchnad?

Question

Gan gyfeirio’n ôl at y pedwar categori, sef peryglon corfforol/meddyliol/cemegol/biolegol, pa gategori fyddai’n achosi’r risg fwyaf i staff glanhau mewn gwesty?

Cam tri – Asesu’r risgiau a gweithredu

Ar ôl canfod y peryglon, rhaid penderfynu beth sydd angen ei wneud er mwyn osgoi niwed.

Gallai hyn olygu cael gwared ar y peryglon yn gyfan gwbl neu geisio lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob perygl.

Mae modd gwneud hyn drwy ddarparu dillad diogelwch, drwy ddarparu hyfforddiant perthnasol neu, yn syml iawn, drwy roi rhwystr rhwng pobl ag unrhyw beryglon.

Rhaid penderfynu hefyd pa mor debygol yw pob perygl o achosi niwed. Bydd angen rhoi sgôr risg uchel, cymedrol neu isel i bob perygl. Bydd angen ystyried dau ffactor er mwyn penderfynu pa sgôr i’w rhoi:

  • beth yw canlyniadau’r risg
  • pa mor debygol yw hi y bydd y risg yn digwydd

Os yw risg yn debygol o gael effaith ddifrifol, a bod y posibilrwydd y bydd yn digwydd yn cael ei ystyried fel tebygol, yna dylai’r perygl gael sgôr 'oren ac uchel'. Er enghraifft, gallai roller-coaster mewn ffair gael canlyniadau difrifol pe bai pethau’n mynd o chwith, a gallai’r posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd gael ei ystyried fel tebygol, gan ein bod wedi clywed am nifer o achosion yn y newyddion.

Os yw risg yn debygol o gael canlyniadau bach iawn a bod y siawns y bydd yn digwydd yn annhebygol, yna gall y perygl gael sgôr ‘gwyrdd ac isel’, ee plentyn yn llosgi mewn dosbarth Economeg y cartref.

Matrics asesiad risg wedi ei drefnu a'i liwio yn ôl trefn 'Difirfoldeb' yn erbyn 'Tebygolrwydd'.

Question

Sut fyddet ti’n dosbarthu’r peryglon a ganlyn?

  • Sglefrio ar rew/iâ
  • Teithio ar fws
  • Gwneud naid bynji

Cam pedwar – Gwneud cofnod o’r canfyddiadau

Bydd ysgrifennu’r canfyddiadau yn dangos bod gwiriad priodol wedi cael ei wneud. Mae cofnod ysgrifenedig hefyd yn dangos bod sylw wedi cael ei roi i beryglon mawr ac amlwg a bod unrhyw ragofalon oedd yn eu lle yn rhai rhesymol.

Cam pump – Adolygu’r asesiad risg

Mae sefyllfaoedd yn newid o hyd, felly mae’n bwysig adolygu asesiadau risg yn rheolaidd a’u diweddaru er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gyfredol.

Enghraifft o ffurflen asesiad risg wedi ei argraffu ar bapur.

More guides on this topic