Cynlluniau datblygu
Wrth ddatblygu effeithiolrwydd personol bydd disgwyl i ti:
- nodi’r sgiliau personol a/neu’r sgiliau gweithio mewn tîm presennol sy’n berthnasol i dy broject neu her
- nodi unrhyw sgiliau personol a/neu sgiliau gweithio mewn tîm ychwanegol rwyt ti’n debygol o fod eu hangen
- cynllunio ar gyfer datblygu a gwella sgiliau
Archwiliad sgiliau
Mae archwiliad sgiliau yn gallu asesu arbenigedd mewn sgiliau amrywiol. Mae’n bwysig dadansoddi archwiliad sgiliau ar ôl iddo gael ei gwblhau, oherwydd mae'n nodi pa sgiliau mae angen eu datblygu.
Dylet ti feddwl pa sgiliau sydd eu hangen er mwyn cyflawni dy weithgaredd cymunedol. Bydd y gweithgaredd cymunedol yn un o’r canlynol:
- cyfle cymdeithasol/lles
- cyfle i wella’r gymdogaeth
- cyfle i hyfforddi
Dylai archwiliad sgiliau nodi’r pwyntiau a ganlyn:
- pa fath o sgiliau (hy sgiliau pobl neu sgiliau personol)
- y sgiliau sydd eu hangen
- sgil nad oes gen ti ar hyn o bryd
- sgil rwyt ti wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol, ond nad wyt ti’n arbenigwr ar ei ddefnyddio
- sgil rwyt ti’n ei ddefnyddio’n rheolaidd ac rwyt ti’n teimlo’n hyderus i’w ddefnyddio
Bydd archwiliad sgiliau clir yn nodi pa sgiliau bydd angen eu datblygu