Synwyryddion a Rheoli
Synwyryddion
Mae synwyryddion yn cael eu defnyddio’n aml fel rhan o gylchred adborth. Maen nhw’n casglu data’n barhaus ac fel arfer maen nhw wedi’u cysylltu â rhaglen reoli sy’n nodi lefelau derbyniol, er enghraifft, isafswm ac uchafswm tymheredd mewn tŷ gwydr. Mae’r rhaglen reoli’n penderfynu beth i’w wneud nesaf ar sail y data sy’n cael eu bwydo iddi gan y synwyryddion.
Logo
Iaith rhaglennu cyfrifiaduron syml yw Logo ac mae’n bosibl ei defnyddio i reoli dyfeisiau. Er enghraifft, mae’n bosibl symud robot bach sy’n cael ei alw’n crwbanRobot y mae’n bosibl ei raglennu gan ddefnyddio iaith raglennu Logo i gyflawni gorchmynion syml, er enghraifft symud ymlaen ac yn ôl. o gwmpas y llawr gan ddefnyddio Logo. Mae Logo yn cael ei defnyddio’n aml gyda chrwban sgrin, sef gwrthrych ar y sgrin sy’n cael ei ddefnyddio i efelychu sut mae crwban yn symud o gwmpas y llawr. Mae’n bosibl defnyddio llawer o gorchymynCyfarwyddyd sy’n cael ei roi i gyfrifiadur. i reoli’r crwban.
Gorchmynion Logo
Dyma enghreifftiau o orchmynion mwyaf cyffredin Logo:
| Gorchymyn | Gweithred |
| FORWARD 50 | symud ymlaen 50 cam |
| BACK 50 | symud yn ôl 50 cam |
| LEFT 90 | troi 90° i’r chwith |
| RIGHT 90 | troi 90° i’r dde |
| PENDOWN | rhoi’r pen i lawr a dechrau lluniadu |
| PENUP | codi’r pen a gorffen lluniadu |
| Gorchymyn | FORWARD 50 |
|---|---|
| Gweithred | symud ymlaen 50 cam |
| Gorchymyn | BACK 50 |
|---|---|
| Gweithred | symud yn ôl 50 cam |
| Gorchymyn | LEFT 90 |
|---|---|
| Gweithred | troi 90° i’r chwith |
| Gorchymyn | RIGHT 90 |
|---|---|
| Gweithred | troi 90° i’r dde |
| Gorchymyn | PENDOWN |
|---|---|
| Gweithred | rhoi’r pen i lawr a dechrau lluniadu |
| Gorchymyn | PENUP |
|---|---|
| Gweithred | codi’r pen a gorffen lluniadu |
Mae’n bosibl defnyddio’r gorchmynion hyn i luniadu sgwâr ar y sgrin:
- FORWARD 100
- LEFT 90
- FORWARD 100
- LEFT 90
- FORWARD 100
- LEFT 90
- FORWARD 100
- LEFT 90
Ailadrodd gorchmynion
Mae’n bosibl ysgrifennu’r un gorchmynion yn gyflymach drwy ddefnyddio’r gorchymyn REPEAT, er enghraifft:
REPEAT 4 [FORWARD 100 LEFT 90]
Byddai’r gorchymyn hwn yn cael yr un effaith â’r wyth gorchymyn unigol uchod – mae’n lluniadu sgwâr.
Mae’n bosibl defnyddio’r gorchymyn REPEAT i greu unrhyw nifer o batrymau. Er enghraifft, cafodd siâp tebyg i sbirograff ei greu â’r gorchymyn hwn:
REPEAT 30 [FORWARD 100 RIGHT 156]
Mae storio cyfres o orchmynion fel hyn yn creu rhaglen syml. Mae trefn y gorchmynion mewn rhaglen yn hanfodol. Os yw’r drefn yn anghywir, ni fydd y rhaglen yn gweithio’n iawn.
Mae gofyn i ieithoedd rhaglennu cyfrifiaduron fod yn drachywir. Bydd unrhyw wall, beth bynnag ei faint, yn achosi i’r rhaglen beidio gweithio. Ni fydd y cyfrifiadur yn hoffi camgymeriadau sillafu nac, er enghraifft, os wyt ti’n anghofio rhoi bwlch rhwng FORWARD a 50.