Logio data a rheoliEnghraifft o logio data

Logio data yw’r broses o gasglu a storio data dros gyfnod. Mae’n bosibl cofnodi a dadansoddi’r data sy’n cael eu casglu.

Part ofTGChMeddalwedd rhaglenni

Enghraifft o logio data

Mae’r arbrawf hwn yn pennu pa mor gyflym mae dŵr yn oeri o’r berwbwynt.

  1. Mae tymheredd yn cael ei roi yn yr hylif.
  2. Mae’r synhwyrydd wedi’i gysylltu â blwch rhyngwyneb sydd wedi’i gysylltu â’r cyfrifiadur.
  3. Mae’r yn cael ei gosod i gymryd darlleniadau bob 30 eiliad (cyfwng amser) am 25 munud (cyfnod logio).
Arbrawf dŵr berwedig yn defnyddio rhyngwyneb cyfrifiadurol i gofnodi canlyniadau.
Figure caption,
Arbrawf i gofnodi dŵr yn oeri

Fel arfer, bydd y feddalwedd logio data yn storio’r darlleniadau mewn tabl. Mae’n bosibl dadansoddi’r data yn nes ymlaen gan ddefnyddio offer graffiau.

Graff yn dangos canlyniadau cromlin oeri.
Figure caption,
Cromlin oeri – enghraifft o graff wedi’i greu drwy logio data

Graff y byddai’n bosibl ei ddefnyddio yn yr arbrawf hwn yw graff cromlin oeri. Mewn graff fel hyn byddai amser ar yr echelin X a thymheredd ar yr echelin Y. Byddai cromlin yn cael ei llunio i gynrychioli pa mor gyflym y gwnaeth y dŵr oeri.