Cronfeydd data a chipio data
Cyn creu cronfa ddataStorfa ddata sydd wedi’i chynllunio mewn ffordd drefnus, i’w gwneud hi’n haws i ni chwilio am y wybodaeth sydd ei hangen., rhaid penderfynu ynglŷn â strwythur y cofnod er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cofY rhan o gyfrifiadur sy’n storio data. a’r storfa gynorthwyolPrif storfa ddata cyfrifiadur, hynny yw, y ddisg galed., a gwneud y gwaith o chwilio am wybodaeth a llunio adroddiad yn haws.
Er enghraifft, mae garej gwerthu ceir yn awyddus i gofnodi manylion y ceir mae’n eu gwerthu. Cyn creu’r gronfa ddata, mae angen ateb y cwestiynau isod:
- Pa wybodaeth sydd ei hangen?
- Pa ddull o dilysuGwirio bod data sy’n cael eu mewnbynnu yn synhwyrol ac yn y fformat iawn. sy’n bosibl?
Ar ôl ateb y cwestiynau hyn, bydd modd gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn â strwythur y cofnod. Dyma sut y gallai ddechrau:
| Enw maes | Math o faes | Fformat |
| Rhif cofrestru | Alffaniwmerig | Hyd at 7 nod – y maes allweddol |
| Gwneuthuriad | Alffaniwmerig | Hyd at 15 nod |
| Model | Alffaniwmerig | Hyd at 15 nod |
| Dyddiad cofrestru am y tro cyntaf | Dyddiad | DDMMBB |
| Pris | Math o arian | Hyd at 5 rhif |
| Wedi’i drethu | Do/Naddo (Boole) | 1 nod D/N |
| Enw maes | Rhif cofrestru |
|---|---|
| Math o faes | Alffaniwmerig |
| Fformat | Hyd at 7 nod – y maes allweddol |
| Enw maes | Gwneuthuriad |
|---|---|
| Math o faes | Alffaniwmerig |
| Fformat | Hyd at 15 nod |
| Enw maes | Model |
|---|---|
| Math o faes | Alffaniwmerig |
| Fformat | Hyd at 15 nod |
| Enw maes | Dyddiad cofrestru am y tro cyntaf |
|---|---|
| Math o faes | Dyddiad |
| Fformat | DDMMBB |
| Enw maes | Pris |
|---|---|
| Math o faes | Math o arian |
| Fformat | Hyd at 5 rhif |
| Enw maes | Wedi’i drethu |
|---|---|
| Math o faes | Do/Naddo (Boole) |
| Fformat | 1 nod D/N |
Wrth gynllunio cronfa ddata mae’n bwysig dewis y math cywir o faes. Mae hyn yn sicrhau bod modd defnyddio’r dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. sy’n cael eu storio. Mae hefyd yn gwneud y broses ddilysu’n haws. Er enghraifft, pe bai’r pris sy’n cael ei dalu am nwyddau’n cael ei storio mewn maes testun, ni fyddai’r gronfa ddata’n gallu adio pob rhif unigol i greu cyfanswm.
Meysydd allweddol
Dylai cronfa ddata bob amser gynnwys maes allweddol.
Dyma enghreifftiau o feysydd allweddol:
- rhif cofrestru car
- rhif Yswiriant Gwladol
- rhif canolfan arholi’r ysgol
- rhif ymgeisydd mewn arholiad
Storio data mewn tablau
Mae cronfeydd data yn storio data mewn tablau. Gall un ffeil cronfa ddata storio llawer o dablau, ymholiadau ac adroddiadau. Yn y tabl enghreifftiol isod mae chwe cholofn (wedi’u rhannu’n fertigol) a phedair rhes (wedi’u rhannu’n llorweddol). Mae gan bob colofn bennawd, er enghraifft, Rhif cofrestru.
| Rhif cofrestru | Gwneuthuriad | Model | Dyddiad cofrestru | Pris | Wedi’i drethu |
| R623 PHM | Ford | Fiesta | 010198 | 6800 | D |
| P887 LHW | Rover | 200 | 010397 | 7500 | D |
| P812 WHJ | Peugeot | 406 | 010996 | 7000 | N |
| Rhif cofrestru | R623 PHM |
|---|---|
| Gwneuthuriad | Ford |
| Model | Fiesta |
| Dyddiad cofrestru | 010198 |
| Pris | 6800 |
| Wedi’i drethu | D |
| Rhif cofrestru | P887 LHW |
|---|---|
| Gwneuthuriad | Rover |
| Model | 200 |
| Dyddiad cofrestru | 010397 |
| Pris | 7500 |
| Wedi’i drethu | D |
| Rhif cofrestru | P812 WHJ |
|---|---|
| Gwneuthuriad | Peugeot |
| Model | 406 |
| Dyddiad cofrestru | 010996 |
| Pris | 7000 |
| Wedi’i drethu | N |
Mae cronfa ddata lle mae’r holl ddata’n cael eu storio mewn un tabl yn cael ei galw’n gronfa ddata ffeil fflat.