Meddalwedd trin gwybodaethymholiadau AND/OR/NOT

Mae cronfa ddata yn ffordd o storio gwybodaeth mewn ffordd drefnus, resymegol. Mae’n bwysig gwybod pryd i ddefnyddio cronfa ddata a bod yn ymwybodol o’i manteision.

Part ofTGChMeddalwedd rhaglenni

ymholiadau AND/OR/NOT

Mae fel Microsoft Access yn defnyddio iaith i leihau canlyniadau chwiliadau. Gall ymholiad edrych ar fwy nag un maes.

Rhif cofrestruGwneuthuriadModelDyddiad cofrestruPrisWedi’i drethu
R623 PHMFordFiesta0101986800D
P887 LHWRover2000103977500D
X842 PLDFordMondeo0101968100N
P812 WHJPeugeot4060109967000N
T419 PCPCitroenC40109996000D
Rhif cofrestruR623 PHM
GwneuthuriadFord
ModelFiesta
Dyddiad cofrestru010198
Pris6800
Wedi’i drethuD
Rhif cofrestruP887 LHW
GwneuthuriadRover
Model200
Dyddiad cofrestru010397
Pris7500
Wedi’i drethuD
Rhif cofrestruX842 PLD
GwneuthuriadFord
ModelMondeo
Dyddiad cofrestru010196
Pris8100
Wedi’i drethuN
Rhif cofrestruP812 WHJ
GwneuthuriadPeugeot
Model406
Dyddiad cofrestru010996
Pris7000
Wedi’i drethuN
Rhif cofrestruT419 PCP
GwneuthuriadCitroen
ModelC4
Dyddiad cofrestru010999
Pris6000
Wedi’i drethuD

Dyma restr o dermau cyffredin sy’n cael eu defnyddio mewn iaith holi. Mae’r enghreifftiau’n seiliedig ar y tabl:

  1. AND – yn cael ei ddefnyddio i ganfod pob cofnod lle mae’r car o wneuthuriad Ford a hefyd lle mae’r pris yn llai nag 8000. Byddai hyn yn dychwelyd y Fiesta ond nid y Mondeo.
  2. OR – yn cael ei ddefnyddio i ganfod pob cofnod lle mae’r car o wneuthuriad Ford neu o wneuthuriad Rover. Dim ond y Ford Fiesta, y Ford Mondeo a’r Rover 200 fyddai’n cael eu dangos.
  3. NOT – yn cael ei ddefnyddio i ddychwelyd pob cofnod lle nad yw’r car o wneuthuriad Citroen. Byddai hyn yn dychwelyd pob cofnod ar wahân i’r Citroen C4.

Mewn iaith holi, byddai’r enghreifftiau hyn yn edrych yn debyg i hyn:

  1. [Gwneuthuriad] = "Ford" AND [Pris] < 8000
  2. [Gwneuthuriad] = "Ford" OR [Gwneuthuriad] = "Rover"
  3. [Gwneuthuriad] = NOT "Citroen"
Esboniad o broses ymholi sy’n defnyddio ‘and’ ‘or’ ‘not’. Mae rhidyllau’n cael eu defnyddio i hidlo canlyniadau ceir.