Meddalwedd CBG, Prosesu geiriau a ChyflwynoProsesu geiriau

Mae prosesyddion geiriau yn fath o raglen feddalwedd sy’n cael ei defnyddio i gyfansoddi, fformatio a golygu dogfennau.

Part ofTGChMeddalwedd rhaglenni

Prosesu geiriau

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â phecynnau prosesu geiriau fel Microsoft Word neu Writer (rhan o gyfres Open Office).

Nodweddion safonol

Mae pob brosesu geiriau yn caniatáu i ti:

  • fewnbynnu a golygu testun
  • cadw
  • argraffu
  • torri/copïo/gludo
  • gwirio sillafu

Torri, copïo a gludo

Esboniad o’r swyddogaeth torri, copïo a gludo.

Mae torri a chopïo yn gweithio mewn ffordd debyg. Bydd amlygu darn o destun, de-glicio a dewis copïo/torri yn storio’r testun yn y . Y gwahaniaeth yw bod copïo yn gadael y testun sydd wedi’i amlygu ar ôl, ond bod torri yn ei dynnu oddi yno. Er mwyn gosod y testun sydd wedi’i gopïo/torri mewn rhan arall o’r ddogfen, mewn dogfen wahanol, neu mewn rhaglen hollol wahanol, de-glicia a dewis gludo.

Nid yw’r defnydd o dorri, copïo a gludo wedi’i gyfyngu i destun o reidrwydd.

Fformatio testun

Mae fformatio testun yn gwneud dogfen yn haws i’w darllen. Galli:

  • newid math a maint y
  • newid aliniad testun (chwith, canol, de neu wedi’i unioni)
  • defnyddio testun trwm
  • tanlinellu testun
  • italeiddio testun
  • creu rhestrau wedi’u rhifo neu’n defnyddio pwyntiau bwled

Nodweddion eraill

Nodweddion eraill y galli ddisgwyl eu gweld yw canfod a newid, sy’n newid un gair am un arall, a’r gallu i , er enghraifft o lyfrgell . Mae penynnau a throedynnau a rhifo tudalennau yn ddefnyddiol iawn hefyd.