Cyhoeddi bwrdd gwaith
Nid prosesydd geiriauRhaglen sy’n cael ei defnyddio i ysgrifennu, golygu a fformatio testun. yw’r pecyn gorau i’w ddefnyddio i gynhyrchu dogfen bob tro. Os oes angen mwy o reolaeth dros osodiad tudalen neu os yw’r ddogfen yn mynd i gynnwys llawer o graffigwaithDelwedd weledol sy’n cael ei dangos ar sgrin neu ei storio fel data., byddai pecyn cyhoeddi bwrdd gwaith fel Microsoft Publisher yn fwy addas. Mae rhaglenni cyhoeddi bwrdd gwaith yn cael eu defnyddio’n aml i gynhyrchu papurau newydd, cylchgronau, newyddlenni a thaflenni.
Fframiau
Prif fantais cyhoeddi bwrdd gwaith yw’r ffaith ei fod yn seiliedig ar fframiau. Mae’n bosibl gosod fframiau lluniau a thestun ar y dudalen, a’u symud a newid eu maint yn ôl y galw.
Mae’n bosibl ychwanegu testun a graffigwaith, er enghraifft o cliplunDelweddau wedi’u gwneud ymlaen llaw., ac wedi’u mewnforio o ffynonellau eraill hefyd. Er enghraifft, testun wedi’i ysgrifennu gan awdur proffesiynol neu luniau a darluniadau wedi’u darparu gan ddylunydd proffesiynol.
Bydd y dudalen yn ymddangos ar ffurf WYSIWYG (what you see is what you get).