Sut mae taenlenni’n gweithio
Mae taenlen yn ymddangos fel grid – mae gan bob rhes ei rhif ei hun ac mae gan bob colofn ei llythyren ei hun. Mae’r dull hwn o labelu rhesi a cholofnau’n cael ei ddefnyddio i roi cyfeiriad neu gyfeirnod i bob cell, er enghraifft, mae C5 yn golygu colofn C, rhes 5.
Mae hefyd yn bosibl cyfeirio at ystod o gelloedd gyda’i gilydd, hynny yw, mae E4:E12 yn cynnwys E4, E12 a phob cell sydd rhyngddyn nhw.
Gall celloedd gynnwys rhifau, testun neu fformiwlaDarn syml o rifyddeg rwyt ti’n ei deipio i mewn i daenlen er mwyn gwneud cyfrifiad. Ffurf luosog 'fformiwla' yw 'fformiwlâu'..
Enghraifft o daenlen
Mae groser yn defnyddio siop symudol i werthu nwyddau i gwsmeriaid sy’n byw y tu allan i’r dref. Mae’n defnyddio taenlen i gadw cofnod o’i werthiant dyddiol:
Mae nifer o fformiwlâu yn y daenlen uchod ond maen nhw wedi’u cuddio. Dim ond y canlyniadau sy’n cael eu dangos.
Fformiwlâu
Mae’r fformiwla yng nghelloedd E2 i E8 yn cyfrifo cyfanswm y gwerthiant ar gyfer pob eitem. Mae’n gwneud hyn drwy luosi nifer yr eitemau sydd wedi’u gwerthu â’r pris unigol. Er enghraifft, cafodd saith cilogram o afalau eu gwerthu am 70c y cilogram. Y cyfanswm sy’n cael ei gyfrifo yw £4.90, ac mae’n cael ei ddangos yng nghell E2. Y fformiwla yn E2 yw =C2*D2, hynny yw, 7 × £0.70.
Mae cell E12 yn cynnwys fformiwla sy’n cyfrifo cyfanswm y golofn gwerthiant. Y fformiwla sy’n cael ei defnyddio yw =SUM(E2:E8). Mae’r fformiwla hon yn cynnwys celloedd E2, E8 a phob cell sydd rhyngddyn nhw. Byddai’n bosibl i ti ysgrifennu’r fformiwla fel =E2+E3+E4+E5+E6+E7+E8, a byddai’n rhoi’r un canlyniad, ond mae hyn yn rhy gymhleth ac mae mwy o siawns o wneud camgymeriad. Dim ond wrth adio ystod o gelloedd y mae’r ffwythiant =SUM yn cael ei ddefnyddio.