Pam defnyddio modelau cyfrifiadurol?
Mae’n bosibl defnyddio meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol.taenlenMeddalwedd sy’n cael ei defnyddio i drin data. Mae’n cael ei defnyddio’n aml wrth fodelu. ar gyfer modelu ariannol, ac ar gyfer llawer o fathau eraill o fodelau cyfrifiadurol:
- modelu ciwiau archfarchnadoedd
- modelu’r pwysau a fydd yn cael ei ddal gan bont newydd
- modelu llif traffig mewn system ffordd newydd
Mae modelau cyfrifiadurol yn rhatach i’w sefydlu na dulliau eraill o ragfynegi beth fydd yn digwydd mewn system, er enghraifft, adeiladu prototeip. Mae’r manteision eraill yn cynnwys gallu:
- gwneud newidiadau a gweld y canlyniadau’n gyflym
- ailadrodd profion nifer o weithiau
- dysgu o senarios "beth os?"
- modelu sefyllfaoedd peryglus yn ddiogel
Cyfyngiadau modelau cyfrifiadurol
Mae model yn dibynnu’n llwyr ar y rheolau sydd wedi’u defnyddio i’w greu. Gallai pwy bynnag a ysgrifennodd y model fod wedi gwneud camgymeriad, ac mae’n bosibl nad yw pob sefyllfa wedi cael ei hystyried – gallai’r ddwy broblem hyn achosi i’r model roi atebion anghywir.