Meddalwedd taenlenniModelu: beth os?

Mae modelau cyfrifiadurol o ddata mathemategol, er enghraifft cyllidebau, fel arfer yn cael eu gwneud â rhaglen daenlenni. Mae rhaglen daenlenni’n prosesu’r data gafodd eu mewnbynnu gan y defnyddiwr ac yn gwneud cyfrifiadau.

Part ofTGChMeddalwedd rhaglenni

Modelu: beth os?

Mae’n bosibl defnyddio fel offeryn modelu.

Mae’r model yn cael ei reoli gan set o reolau sy’n cael eu cyflwyno gan . Mae’n bosibl newid y rheolau hyn yn hawdd i amrywio’r model ac, er enghraifft, darparu gwybodaeth am gostau rhedeg a maint yr elw.

Gallai cwmni ddefnyddio taenlen i ganfod beth fyddai’n digwydd pe bai’n gostwng pris ei gynnyrch a pha effaith y byddai hynny’n ei gael ar ei incwm.

Er mwyn gwneud hyn mae’n gostwng y gwerth yn y golofn pris a bydd y data yn y golofn incwm o werthiant yn cael eu hailgyfrifo yn awtomatig (ar i lawr).

Pe bai’r pris is yn arwain at werthiant uwch, drwy addasu’r data yn y golofn nifer y gwerthiannau, bydd y data incwm o werthiant yn cael eu hailgyfrifo eto (ar i fyny).

Mae gallu ateb cwestiynau "beth os?" fel hyn yn hanfodol. Mae’n caniatáu i gwmni ragfynegi patrymau incwm a gwariant yn y dyfodol.

Taenlen gyfrifiadurol yn defnyddio’r offeryn modelu beth os i ragfynegi gwerthiant ymbaréls.