Manteision defnyddio taenlenni
Mae defnyddio taenlenMeddalwedd sy’n cael ei defnyddio i drin data. Mae’n cael ei defnyddio’n aml wrth fodelu. yn hytrach na chyfrifiannell neu bapur a phensel yn cynnig y manteision a ganlyn:
Ffordd fwy effeithiol o drin data
- Mae’n bosibl defnyddio fformiwlaDarn syml o rifyddeg rwyt ti’n ei deipio i mewn i daenlen er mwyn gwneud cyfrifiad. Ffurf luosog 'fformiwla' yw 'fformiwlâu'. i ailgyfrifo cyfansymiau ar unwaith. Er enghraifft, pe bai’r adeiladwr yn newid ei dâl galw allan, byddai cyfanswm y gost yn cael ei hailgyfrifo ar unwaith gan ystyried y newid.
- Mae’n bosibl gwneud ymchwiliadau "beth os?". Er enghraifft, gallai’r groser godi ei brisiau i weld yr effaith ar werthiant a gallai’r adeiladwr godi ei dâl fesul awr i weld yr effaith ar ei gyfanswm dyddiol.
- Mae’n bosibl cyflwyno’r gwybodaethData sydd ag ystyr, nid rhif neu lythyren yn unig. mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gallai’r groser gynhyrchu graff o werthiant llysiau a ffrwythau drwy ddewis ystodau A2:A8 ac E2:E8 er mwyn gwneud y graff.
- Mae’n hawdd gwneud y newidiadau hyn. Cadw dy waith a’i argraffu eto.
Fformatio data
- Addasu lled colofnau a dileu neu ychwanegu colofnau a rhesi yn hawdd.
- Tanlinellu, trymhau testun a defnyddio gwahanol ffontArddull sy’n cael ei gymhwyso i destun. Er enghraifft, mae Times New Roman, Arial a Verdana i gyd yn fathau o ffontiau. a graffigwaithDelwedd weledol sy’n cael ei dangos ar sgrin neu ei storio fel data..
- Unioni dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. ar y chwith, yn y canol neu ar y dde.
- Rheoli’r mathau o rifau rwyt ti’n eu rhoi i mewn – er enghraifft, galli ddewis canran, math o arian neu bennu nifer y llefydd degol.